Etholiad Iwerddon: Pwy yw'r troseddwr sy'n ceisio cipio sedd arweinydd Sinn Féin?
Ar drothwy etholiad yng Ngweriniaeth Iwerddon ddydd Gwener mae un etholaeth yn Nulyn wedi hawlio'r penawdau.
Fe fydd Gerard 'the Monk' Hutch, arweinydd honedig y gang troseddol Hutch yn ceisio sefyll i fod yn Aelod Seneddol (TD neu Teachta Dála) yn Nulyn Canolog, lle mae arweinydd Sinn Féin, Mary Lou McDonald hefyd yn sefyll.
Ym mis Ebrill 2023 cafwyd Mr Hutch yn ddieuog gan y Llys Troseddol Arbennig o lofruddio dyn o'r enw David Byrne, yn un o'r ymosodiadau cyntaf rhwng gangiau Hutch a Kinahan a arweiniodd at farwolaeth.
Bu farw Mr Byrne, 33, ar ôl cael ei saethu chwe gwaith mewn digwyddiad ar gyfer cystadleuaeth focsio yng Ngwesty’r Regency yn Nulyn ym mis Chwefror 2016.
Y gred yw mai un o arweinwyr y gang Kinahan, Daniel Kinahan oedd y targed.
Mae'r Kinahans yn un o'r cartels troseddol rhyngwladol mwyaf sydd yn bodoli ar hyn o bryd - y mwyaf grymus yn Iwerddon ac yn un o'r mwyaf yn y byd.
Penawdau
Mae Gerard Hutch wedi bod yn y penawdau yn gyson. Roedd ganddo record droseddol hir cyn iddo droi'n 18 oed.
“Mae e ‘di bod yn ffigwr ar hyd y blynyddoedd rili, fe yw 'pennaeth gangland y teulu Hutch," meddai golygydd gwasanaeth newyddion RTÉ, Bethan Kilfoil wrth Newyddion S4C.
"Mae nhw wedi bod yn rhan o fywyd treisgar y wlad ers blynyddoedd a mae nhw’n enwog am gael brwydr gyda’r teulu Kinahan’s yn ymwneud â chyffuriau a phwy oedd yn rheoli y farchnad cyffuriau.
“Mi oedd y frwydr wedi bod yn waedlyd iawn, nifer o bobl wedi cael eu lladd dros y blynyddoedd gan gynnwys brawd Gerry Hutch, oedd yn ddim byd i wneud gyda’r cyffuriau."
Yn ddiweddar, cafodd Mr Hutch ei ryddhau ar fechnïaeth gan yr heddlu yn Sbaen mewn ymchwiliad i honiadau ei fod yn gwyngalchu arian (money-laundering).
'Enwog ers talwm'
Ers yn fachgen ifanc roedd Gerry Hutch i mewn ac allan o'r carchar wedi ei gyhuddo o amrywiol droseddau.
Ond yr achos mwyaf enwog yw llofruddiaeth David Byrne yng Ngwesty’r Regency yn 2016.
Cafodd Mr Hutch ei ddyfarnu'n ddieuog o lofruddiaeth, a dywedodd un o'r barnwyr fod “posibilrwydd rhesymol” mai brawd Mr Hutch, Patsy, oedd wedi cynllwynio’r llofruddiaeth a bod Gerry Hutch wedi “camu i’r adwy” fel pennaeth y teulu wedi ei farwolaeth.
"Oedd pawb yn meddwl bod Gerry Hutch tu ôl i hwnna, a cafodd ei arestio yn Lanzarote yn Sbaen," dywedodd Bethan Kilfoil.
"Ond oedd y wlad i gyd yn synnu, the Monk goes free."
Yn 1999 cafodd achos ei ddwyn yn ei erbyn yn honni ei fod yn rhan o ladrad a lladrad arfog gwerth £4.7 miliwn.
Y Criminal Assets Bureau (CAB), sef asiantaeth gwyngalchu arian oedd wedi dwyn yr achos yn ei erbyn, ond yn y pendraw daeth setliad rhygnddyn nhw, ac fe wnaeth Mr Hutch dalu £2 miliwn mewn treth.
Aeth ymlaen i sefydlu cwmni tacsi o'r enw Carry Any Body (CAB), ac er i nifer ddweud bod hynny yn gwawdio'r Criminal Assets Bureau, roedd Mr Hutch yn gwadu hynny.
Roedd ganddo gar limousine hir ac mae enwogion fel y bocsiwr Mike Tyson wedi cael eu tywys o gwmpas Dulyn gan Mr Hutch.
Pam penderfynu sefyll yn yr etholiad?
Bydd Gerard Hutch yn un o 13 o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth Dulyn Canolog.
Mae pleidleiswyr yn nodi eu dewisiadau cyntaf a dewisiadau dilynol ar gyfer yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio trwy farcio'r rhif perthnasol yn y blwch wrth ymyl enw person.
Bydd pedwar yn cael eu hethol i'r etholaeth hon, ac mae Mr Hutch yn dweud ei fod eisiau newid pethau yn Nulyn.
“Mae o’n dweud bod o wastad wedi bod yn wleidydd answyddogol, bod o wastad wedi sortio petha allan yn y rhan yna o Ddulyn, dweud o’dd on helpu pobl, yn helpu pobl oedd yn digartref," meddai Bethan Kilfoil.
"Mae’n dweud bod o isio cynrychioli’r ardal go iawn a dyma oedd ei gyfle i wneud o. Mae o isho mynd mewn i Leinster house a siglo petha fyny."
Pwy sy'n debygol o gael eu hethol i'r llywodraeth?
Ar hyn o bryd mae clymblaid rhwng Fianna Fáil, Fine Gael a'r Blaid Werdd, ac mae'n anodd i un o'r prif bleidiau ennill mwyafrif.
Dywedodd Bethan Kilfoil ei bod yn debygol iawn y bydd clymblaid yn y llywodraeth eto.
“Mae na bownd o fod clymblaid o ryw fath.
"Mae'n anodd gweld sut byddai Sinn Féin yn ffurfio llywodraeth heb gynyddu ar nifer eu pleidleisiau. Doedd Fianna Fáil a Fine Gael methu pigo fyny digon o seddi ac felly gorfod ffurfio clymblaid.
"Ond mae’n anodd deud, ac mae pethau yn gallu newid yn wythnos olaf yr ymgyrch, ond mae mynd i fod rhyw fath o glymblaid ac mae’n edrych fel mai Fáil a Gael fydd o gyda rhai pleidiau bach.
“Costau byw, problemau hefo’r marchnad tai, digartrefedd, prisiau tai, rhenti uchel a iechyd, dyna sydd yn poeni pobl.
"Ond costau byw ydy’r un peth, felly mae lot yn dweud bod eisiau newid, ond nawn ni weld os mae hynny yn bosib yny system sydd gynnon ni.”
Prif lun: Brian Lawless/PA