Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o Flaenau Gwent wedi i'w gi ymosod ar ferch 12 oed

27/11/2024
Ci XL Bully

Mae dyn o Flaenau Gwent wedi'i gyhuddo o fod â chyfrifoldeb dros gi XL Bully oedd allan o reolaeth mewn modd peryglus, wedi iddo ymosod ar ferch 12 oed.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i’r Cilgant ym Mrynmawr am 17.50 ddydd Llun, 14 Hydref yn dilyn adroddiadau yn ymwneud ag ymosodiad gan gi.

Cafodd merch 12 oed ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau "fydd yn newid ei bywyd" yn dilyn yr ymosodiad.

Mae hi bellach wedi cael ei rhyddhau o'r ysbyty.

Fe gafodd swyddogion yr heddlu afael ar y ci er mwyn ei ddifa. 

Mae dyn 37 oed o Frynmawr a gafodd ei arestio ar y pryd wedi'i gyhuddo o fod yn berchen ar gi sydd wedi'i wahardd, heb drwydded ac o fod yn berchen ar gi peryglus oedd allan o reolaeth mewn man cyhoeddus.

Cafodd hefyd ei gyhuddo o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.

Llun Llyfrgell: Ci XL Bully

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.