Newyddion S4C

Pep Guardiola yn cyhoeddi datganiad wedi ei sylwadau am hunan-niweidio

27/11/2024
Pep Guardiola

Rhybudd: Mae’r erthygl ganlynol yn trafod hunan-niweidio ac fe all beri gofid i rai.

Mae rheolwr clwb pêl-droed Manchester City Pep Guardiola wedi gwneud datganiad ar ôl ei sylwadau am hunan-niweidio wedi'r gêm yn erbyn Feyenoord nos Fawrth. 

Wrth siarad â'r wasg ar ôl y gêm, fe ymddangosodd Guardiola gyda marc ar ei drwyn ac ychydig o farciau ar draws ei ben.

Dywedodd hefyd yn y gynhadledd i'r wasg ei fod eisiau "anafu ei hun", cyn iddo chwerthin.

Mewn datganiad fore Mercher, dywedodd Guardiola: "Fe ges i fy nal mewn moment wan gyda chwestiwn ar ddiwedd y gynhadledd i'r wasg neithiwr am farc a ymddangosodd ar fy wyneb ar ôl i mi esbonio mai ewin bys a wnaeth ei achosi yn ddamweiniol. 

"Nid oedd fy ateb mewn unrhyw ffordd i fod yn amharchus i'r pwnc hynod o ddifrifol sef hunan-niweidio. 

"Dwi'n gwybod fod nifer o bobl yn ei chael hi'n anodd gyda phroblemau iechyd meddwl bob dydd, a hoffwn gymryd y foment yma i amlinellu un o'r ffyrdd y mae modd derbyn cymorth, sef drwy alw llinell gymorth y Samariaid ar 116 123 neu e-bostio jo@samartians.org." 

Fe gafodd Man City gêm gyfartal yn erbyn Feyenoord yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fawrth, a hynny ar ôl ildio mantais o dair gôl.

Mae'r canlyniad yn golygu fod pencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr bellach wedi mynd chwe gêm heb ennill ymhob cystadleuaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.