Cau twnnel Caernarfon 'am gyfnod' wedi Storm Bert
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud bod y twnnel yng Nghaernarfon wedi’i gau "am gyfnod" o achos llifogydd yn dilyn Storm Bert.
Fe gafodd y twnnel yn y dref ei gau fore Sadwrn, 23 Tachwedd, ar ôl tywydd garw’r storm.
Mae llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bellach wedi dweud y bydd eu swyddogion yn “asesu” sefyllfa’r twnnel ddydd Mercher.
Bydd rhaid cyflawni’r gwaith yma “cyn bydd unrhyw benderfyniad i ail-agor y twnnel,” medden nhw.
Roedd Storm Bert wedi achosi llifogydd ar hyd a lled y wlad, gyda nifer o lefydd yng Nghymru wedi’i daro’n wael.
Mae sawl ardal yn dal i deimlo’r effaith, yn enwedig trigolion yn ardal Pontypridd wedi i lifogydd difrifol achosi difrod i nifer o dai a busnesau yno.
Roedd tirlithriadau mewn rhai ardaloedd hefyd gan gynnwys Cwmtyleri, lle bu rhaid i bobl cael eu symud o'u tai.