Caerdydd: A ddylai perchnogion ceir mawr dalu mwy i barcio?
Mae Cyngor Caerdydd yn cynnal ymgynghoriad chwe wythnos i benderfynu a ddylai perchnogion ceir mawr dalu mwy na pherchnogion ceir bach i barcio mewn ardaloedd preswyl yn y brifddinas.
Yn ôl Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, bwriad y cynllun arfaethedig yw mynd i'r afael â phroblemau parcio.
"Rydym yn ceisio gwneud hi'n haws i drigolion barcio y tu allan neu'n agos at eu cartrefi,” meddai wrth siarad ar raglen Today BBC Radio 4 fore Mercher.
"Rydym yn cael cwynion cyson gan drigolion bod cymudwyr yn aml yn cymryd eu lle parcio, felly mae hyn yn ymwneud ag ymestyn yr ardal o fewn y ddinas fewnol sydd â rhai rheolaethau parcio preswyl ar waith.
"Mae mor syml â hynny, ei gwneud yn haws i breswylwyr barcio ac annog cymudwyr i beidio â gyrru drwy'r ardaloedd hynny a pharcio yno."
Nid yw Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi unrhyw fanylion penodol am y cynllun hyd yma.
"Ar hyn o bryd, yn yr ardaloedd lle mae trwydded barcio, mae'n £30 y flwyddyn," meddai Mr Thomas.
"Nid ydym yn sôn am ddim byd llym, ond nid ydym yn ymgynghori ar fanylion penodol - rydym yn ymgynghori ar yr egwyddor a yw'n iawn.
"Yn yr un modd ag y mae pobl yn ei wneud drwy dreth ffordd, os ydych yn gyrru cerbyd mwy sy'n llygru'n fwy i dalu ychydig mwy."
Mae Paris eisoes wedi treblu ffioedd parcio ar gyfer ceir sy'n pwyso mwy na 1.6 tunnell.
Ac mae sawl dinas yn y DU, gan gynnwys Bryste, Rhydychen a Llundain, yn ystyried codi ffioedd uwch ar gyfer ceir mawr.
Cosbi cymudwyr?
Mewn ymateb i sylwadau Mr Thomas, dywedodd Andrew RT Davies, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru ac Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn croesawu'r syniad o wella'r sefyllfa parcio i breswylwyr.
"Rwy’n derbyn y pwynt y mae Huw Thomas, fel arweinydd Cyngor Caerdydd, yn ei wneud fod trigolion eisiau gwell parcio y tu allan i’w cartrefi, ac fel aelod etholedig sy’n cynrychioli rhan o Gaerdydd, rwy’n sicr yn croesawu hynny," meddai.
"Ond yr hyn nad wyf yn ei gredu sy'n iawn, pan nad oes llawer o opsiynau eraill ar gyfer cymudwyr i mewn i Gaerdydd, yw bod pobl yn mynd i gael eu cosbi’n ormodol am y dreth ar y cerbyd y maent yn ei yrru oherwydd yr amodau y maent yn byw ynddynt.
"Os ydych yn byw mewn ardal anghysbell, mae cerbyd mwy o faint yn hanfodol i'ch gallu i fynd allan a symud o gwmpas, yn gymdeithasol ac yn economaidd."
Yn ôl Mr Thomas, ni fyddai hynny'n broblem.
"Mae hynny'n gamddealltwriaeth eithaf sylfaenol o'r hyn yr ydym yn ei gynnig, oherwydd yr hyn yr ydym yn ei ofyn yw a ddylai pobl sydd am gael trwydded barcio breswyl dalu mwy os ydynt yn gyrru cerbyd mwy," meddai.
"Os ydych chi'n byw yng nghefn gwlad ac yn gyrru i mewn, ni fyddwch chi'n gwneud cais am le parcio preswyl."
Ychwanegodd: "Mae ynghylch atal traffig cymudo, ond nid ydym yn cosbi cerbydau mwy sy'n cymudo. Mae'n ymwneud â'i gwneud yn llai deniadol i gymudwyr barcio am ddim mewn ardaloedd lle mae ein preswylwyr eisiau parcio.
"Mae mor syml â hynny, mae'r syniad i godi tâl ar gerbydau mwy neu SUVs yn canolbwyntio'n llwyr ar barcio mewn ardaloedd preswyl.
"Mae'r rhain yn gerbydau sy'n cymryd mwy o le, sy'n achosi mwy o ddifrod i'n ffyrdd, ac os ydyn nhw'n digwydd taro'r cerddwr, maen nhw'n debygol o achosi anafiadau mwy difrifol."
Mae'r cynllun parcio newydd ar gyfer Caerdydd yn edrych i greu dau faes parcio strategol newydd o'r enw yr Ardal Ganolog a'r Ardal Ymylol.
Mae'r Ardal Ganolog wedi'i ffinio'n fras i'r gogledd ger yr A48, i'r dwyrain ger Afon Rhymni, i'r de ger Bae Caerdydd ac i'r gorllewin ger Afon Elái.
Mae'r Ardal Ymylol ym mhobman arall.