Newyddion S4C

Yr IRA a'r Trafferthion: Datgladdu corff mewn mynwent

27/11/2024
Joe Lynskey

Mae ymchwilwyr sydd wedi bod yn edrych am ddyn a ddiflannodd yn ystod Y Trafferthion yng Ngogledd Iwerddon yn dweud eu bod wedi datgladdu gweddillion corff o fedd yn County Monaghan.

Mae Joe Lynskey yn un o'r unigolion sydd yn cael ei alw'r "rhai a ddiflannodd", sef pobl a gafodd eu herwgipio, eu llofruddio ac yna eu claddu yn gyfrinachol yn ystod cyfnod Y Trafferthion yng Ngogledd Iwerddon.

Cafodd Lynskey, oedd yn fynach cyn iddo ymuno gyda'r IRA, ei lofruddio gan yr IRA yn 1972.

Mae'r Comisiwn sydd yn gyfrifol am geisio canfod cyrff y rhai sydd ar goll yn dweud eu bod wedi derbyn gwybodaeth am weithredu amheus yn ystod y 70au mewn bedd ym Mynwent Annyalla.

"Mae'r cyfnod a'r lleoliad yn cyd-fynd gyda diflaniad Joe Lynskey yn 1972," meddai'r Comisiwn mewn datganiad.

Maent yn dweud y bydd yn "cymryd peth amser" er mwyn medru adnabod gweddillion pwy yw'r rhai sydd yn y bedd.

Hyd yn hyn mae gweddillion 13 o'r rhai aeth ar goll wedi eu darganfod. Mae pedwar ar ôl, sef Mr Lynskey, Columba McVeigh, Seamus Maguire a Robert Nairac.

 

 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.