Ai chi sydd wedi ennill £177 miliwn ar y loteri?
27/11/2024
Mae person ym Mhrydain wedi ennill £177 miliwn ar yr EuroMillions.
Mae'n golygu mai nhw yw'r trydydd enillydd loteri fwyaf erioed.
Mae'r rhai sydd wedi prynu tocyn wedi cael eu hannog i wirio eu rhifau.
Y rhifau wnaeth ennill oedd 07,11,25,31 a 40 a'r Sêr lwcus 09,12.
Ym mis Gorffennaf 2022, fe enillodd person anhysbys o Brydain £195 miliwn - y mwyaf erioed i gael ei ennill efo'r Loteri Genedlaethol.