Newyddion S4C

Gollwng gwaharddiad cynghorydd ar fynd i bentref ym Mhen Llŷn

Chris Twells

Mae cynghorydd o Loegr wedi cael gwybod bod ei waharddiad ar fynd i bentref ym Mhen Llŷn wedi honiad o stelcian wedi ei dynnu'n ôl.

Roedd Christopher Twells, 33 wedi derbyn Gorchymyn Diogelu rhag Stelcio dros dro oedd yn ei wahardd o bentref Llanbedrog lle mae ei rieni yn byw.

Ond cofnododd Llys Ynadon yr Wyddgrug bod y gwaharddiad wedi cael ei dynnu yn ôl.

Nid oedd wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd pan gafodd y Gorchymyn Diogelu rhag Stelcio ei osod arno ym mis Medi.

Daeth Christopher Twells i sylw’r wasg y flwyddyn ddiwethaf ar ôl cael ei wahardd dros dro gan ei blaid y Democratiaid Rhyddfrydol am ennill etholiad i gynrychioli dwy ward leol wahanol 150 milltir ar wahân.

Roedd wedi ennill yn ward Tetbury yn Upton yn ne-orllewin Lloegr er ei fod eisoes yn cynrychioli Ordsall yng ngogledd-orllewin Lloegr. Mae bellach yn gynghorydd annibynnol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.