Newyddion S4C

Sir Conwy: Arestio dyn ar ôl i'r FBI chwilio amdano am 20 mlynedd

27/11/2024

Sir Conwy: Arestio dyn ar ôl i'r FBI chwilio amdano am 20 mlynedd

Mae dyn o’r Unol Daleithiau wedi cael ei arestio yn Sir Conwy ar amheuaeth o derfysgaeth yn dilyn digwyddiad yn nhalaith California dros 20 mlynedd yn ôl. 

Mae hi wedi dod i'r amlwg fod y dyn oedd ar restr yr FBI o droseddwyr mwyaf difrifol America wedi ei arestio ym Maenan ger Llanrwst ddydd Llun. 

Mae’r FBI wedi bod yn chwilio am Daniel Andreas San Diego, 46 oed, am ddegawdau yn dilyn dau achos o fomio yn San Fransisco yn 2003. 

Fe gafodd Mr San Diego ei arestio y tu mewn i dŷ ger coedwig yn yr ardal. Mae bobl leol wedi eu syfrdanu ar ôl clywed y newyddion.  

Roedd swyddogion gwrthderfysgaeth yn ogystal â swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a swyddogion o’r Asiantaeth Droseddu yn bresennol. 

Cafodd ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad ar 28 Awst 2003. Roedd dau fom wedi ffrwydro, tuag awr ar wahân, ar gampws corfforaeth biotechnoleg yn Emeryville, meddai asiantaeth yr FBI. 

Ar 26 Medi 2003, fe ffrwydrodd bom arall oedd â hoelion wedi’u cysylltu iddo yn ninas Pleasanton.

Cafodd Mr San Diego ei gyhuddo mewn cysylltiad â’r digwyddiadau hynny mewn llys yn nhalaith California ym mis Gorffennaf 2004. 

Ymddangosodd yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mawrth, ac mae’r broses o drefnu iddo gael ei gludo yn ôl i’r Unol Daleithiau bellach ar waith. 

Dywedodd yr FBI fod gan Mr San Diego, a gafodd ei eni yn Berkeley, California, “gysylltiadau” â grŵp hawliau anifeiliaid eithafol. 

Roedd yna wobr swyddogol o $250,000 (£199,000) am unrhyw wybodaeth amdano. Hynny sydd weedi arwain at ei arestio, yn ôl yr FBI. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.