Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn 75 oed a fu farw yn ardal Trefriw

26/11/2024
Bryan Perry

Mae teulu dyn 75 oed a gafodd ei ddarganfod yn farw yn ardal Trefriw, Sir Conwy ddydd Sul, wedi rhoi teyrnged iddo.  

Fe aeth Brian Perry ar goll brynhawn Sadwrn tra'r oedd yn cerdded yn yr ardal gyda'i wraig a'i gi.

Roedd yr Heddlu, Gwylwyr y Glannau, Tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru, y tîm chwilio tanddwr rhanbarthol a’r gwasanaeth tân ac achub wedi bod yn chwilio amdano. 

Mewn datganiad, dywedodd e deulu: “Rydym eisiau diolch i Heddlu Gogledd Cymru a'r gwasanaethau achub am eu hymdrechion mewn amodau hynod o heriol, er mwyn ceisio dod o hyd i ŵr cariadus, tad, brawd a thaid. Roedd teulu estynedig Brian hefyd yn meddwl o byd ohono a'i ffrindiau.

“Does dim geiriau all ddisgrifio'n colled.”

Mae teulu Mr Perry yn dal i gael cymorth gan swyddogion arbenigol, yn ôl Heddlu'r Gogledd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.