Storm Bert: Difrod o £150,000 i berchennog garej ym Mhontypridd
Mae perchennog busnes ym Mhontypridd yn amcangyfrif y bydd costau atgywerio o tua £150,000 ar ôl i Storm Bert ddifrodi ei fusnes.
Fe wnaeth ceir yng ngarej GarethDavies, Scorpion Automotive Solutions, suddo o dan ddŵr o ganlyniad i lifogydd yn ystod Storm Bert dros y penwythnos.
Mae’r garej ar Heol Berw, ger mynedfa maes carafanau Eisteddfod Rhondda Cynon Taf fis Awst diwethaf.
Cyhoeddwyd digwyddiad difrifol yn ardal Rhondda Cynon Taf ddydd Sul, gyda'r llifogydd yn effeithio ar rhwng 200 a 300 o dai a busnesau.
Fore Sadwrn, llifodd chwe modfedd o ddŵr i mewn i’r garej.
Dywedodd Mr Davies fod y dŵr wedi cyrraedd uchder ei ben-glin wrth iddo gyrraedd y garej.
“Roeddwn i’n ceisio achub y cwbl: y cyfrifiaduron, cerbydau’r cwsmeriaid.
“Erbyn i mi adael, roedd y dŵr wedi codi hyd at ganol fy nghorff ac oeddwn i’n brwydro i gyrraedd man sych.
“Chi’n edrych at werth agos at £100,000 o geir mas ar yr iard. Gyda fy nghyfrifiaduron a phethau mewn fan hyn, maen nhw’n werth tua £20,000-£30,000, yn ogystal â’r gost o lanhau popeth.
“Gallwn ni fod yn edrych ar gyfanswm cost o £150,000 wrth ystyried y ceir i gyd a thrwsio popeth arall yma.”
Yn ôl Mr Davies, ni fydd ei bolisi yswiriant yn ei ad-dalu am unrhyw ddifrod oherwydd bod “yr ardal hon yn un sy’n “debygol o ddioddef o lifogydd.”
Dywedodd fod ei gwsmeriaid yn deall y sefyllfa hyd yn hyn.
“Mae llawer o gwsmeriaid yn deall, maen nhw’n deall eu bod nhw efallai wedi dod mewn am timing belt newydd ond nawr mi fydd rhaid iddynt aros dri, bedwar, pum wythnos cyn i mi allu diagnosio’r broblem ac i benderfynu a ydy’r car yn werth ei drwsio,” meddai.
Pryder arall Mr Davies yw bod olew wedi gollwng i’r dŵr.
“Roedd y llifogydd yn un peth, ond nid dyna’r unig broblem. Gyda’r dŵr yn cyrraedd lefelau mor uchel, cwympodd y cynhwysydd olew i’r llawr, felly mae gennym ni tua 200 i 250 litr o olew wedi ei gymysgu â’r dŵr. Mae ym mhob man.”
O ganlyniad i’r arllwysiad olew, ni fydd y glanhau yn dasg syml. Bydd yn rhaid i Mr Davies ofyn am gyngor arbenigol.
“Mae elusen wedi dod yma, maen nhw’n ceisio helpu gyda’r elfen o iechyd amgylcheddol a sut i’w datrys,” meddai.
“Dydy e ddim mor syml â chymryd popeth allan a’i olchi lawr, gan fod rhaid i’r dŵr fynd rhywle fel lawr y drain yn y pen draw
Fel eraill yn yr ardal, mae Mr Davies yn credu y dylai trigolion a busnesau fod wedi derbyn mwy o rybudd gan swyddogion ynglŷn â difrioldeb y storm.
“Roedd yna rybudd melyn; rhybudd na fyddem yn ystyried i achosi gymaint o ddifrod. Mae’n dasg fawr i lanhau modfedd o ddŵr, heb sôn am y gweddill. Doeddwn i ddim yn disgwyl i hyn ddigwydd.
Roedd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan wedi’i “syfrdanu” gan y rhybudd tywydd melyn a gafodd ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd a nododd fod y tywydd llawer gwaeth na’r disgwyl.
Bydd asesiad llawn o’r rhagolygon a’r strategaeth rybuddio yn cael ei gynnal yn ystod y diwrnodau nesaf, meddai’r Swyddfa Dywydd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn cynnal adolygiad.