Newyddion S4C

Blŵi yn caniatáu plant i weld y Gymraeg 'fel un o ieithoedd eraill y byd'

27/11/2024

Blŵi yn caniatáu plant i weld y Gymraeg 'fel un o ieithoedd eraill y byd'

Mae’r darlithydd sy’n gyfrifol am addasu un o’r cymeriadau cartŵn mwyaf poblogaidd y byd i’r Gymraeg yn gobeithio sicrhau fod plant yn cael gweld eu hiaith ar lwyfan rhyngwladol. 

Yn gynharach y mis hwn fe wnaeth cwmni Gwasg Rily gyhoeddi’r addasiad Cymraeg cyntaf erioed o’r sioe boblogaidd i blant Bluey.

Gobaith Hanna Hopwood yw y bydd ei llyfr yn denu mwy o blant i’r Gymraeg. 

Mae Nos Da Ystlum Ffrwythau yn dilyn y ci bach o Awstralia ar ei hanturiaethau wrth iddi ddychmygu ei hun fel ystlum yn teithio drwy'r awyr yn y nos.

Roedd Dr Hopwood yn angerddol dros gyflwyno’r cymeriad i’r iaith Gymraeg, gan sicrhau bod ei henw, Blŵi, yn adlewyrchu hynny hefyd. 

“Pan ti’n meddwl fel mae plant yn darllen, o’n i eisiau bod nhw’n gallu ynganu y geiriau fel maen nhw’n dweud e. 

“Mae’r sillafiad yn y Saesneg – gyda’r ‘u’, ‘e’, a’r ‘y’ yn anodd i ‘weud yn y Gymraeg felly o’n i eisiau sicrhau bod nhw’n gallu darllen yn rhwydd,” esboniodd wrth siarad â Newyddion S4C.

“Dwi’n gobeithio bydd yr addasiad Gymraeg yma yn caniatáu i blant sydd eisiau darllen y fath yma o bethe’ drwy’r Gymraeg yn cael ‘neud hynny ac yn gallu gweld Cymraeg fel un o ieithoedd eraill y byd. 

“A bod ddim wastad rhaid troi i’r Saesneg, neu fod ni’n gallu troi i’r Saesneg ochr yn ochr fel adlewyrchiad o’r Gymru ‘da ni’n byw ynddi.”

Image
Hanna Hopwood

'Heriau'

Ond doedd y broses o gyfieithu byd Blŵi i’r Gymraeg heb ei heriau chwaith, meddai Dr Hopwood. 

Mae gan Blŵi a’i chwaer, Bingo, ddywediadau penodol y maen nhw’n ei ddefnyddio yn yr addasiad Saesneg – “pethau fel ‘trifficult’ am rywbeth sydd yn tricky a difficult,” esboniodd. 

Roedd addasu eu geirfa i’r Gymraeg yn un o’r heriau “unigryw” i brosiect Blŵi. 

“‘Odd e’n dipyn o waith meddwl am y fath ‘na o bethau yn y Gymraeg. Odd pethau fel ‘na wedi mynd ar fy meddwl yn syth o ran sut fyddwn ni’n gallu addasu hwnna. 

“‘Odd tipyn o waith meddwl a crafu fy mhen ar y fath ‘na o bethe’ ond fel gyda pob her mae fe wastad yn braf pan dych chi’n dod o hyd i ddatrysiad. 

“A hwnna oedd un o’r pethau neis am gallu meddwl fel Blŵi am dipyn bach a meddwl ‘Shwt fydde Blŵi neu Bingo yn falle dweud y gair hwn?’

Image
Blwi
Llun: Gwasg Rily

'Mor braf'

Dywedodd Hanna Hopwood ei bod hi a’i theulu cyfan wedi mwynhau cyfieithu Blŵi.

Mae'r gyfres yn un o’r rhaglenni Saesneg y mae hi a’i gŵr, y gohebydd newyddion Iwan Griffiths, wedi “mwynhau mwyaf ers i ni ddod yn rhieni.”

“Mae fe’n rili glyfar o ran beth mae perception plant o oedolion a shwt mae oedolion yn gweld plant, mae fe’n mor glyfar. 

“Ac wrth ddarllen fwy am beth oedd y bwriad gyda’r awduron gwreiddiol tu ôl e, dyna union beth oedden nhw eisiau creu a maen nhw wedi llwyddo yn hynny o beth. 

“Fi’n credu ‘na pam mae mor boblogaidd. Mae ‘na eiliadau rili trist weithiau mewn rhai o’r penodau, neu ‘ma eiliadau llawn hiwmor a mae plant ac oedolion yn teimlo fe ar lefelau gwahanol.” 

Mae Nos Da Ystlum Ffrwythau bellach ar gael i’w brynu mewn siopau llyfrau ac ar-lein. 

Mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod “mor braf” meddai Dr Hopwood. 

Image
Blwi
Llun: Gwasg Rily

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.