Newyddion S4C

Dyn hynaf y byd wedi marw yn 112 oed

26/11/2024
Dyn hynaf y byd

Mae dyn hynaf y byd wedi marw yn 112 oed. 

Cafodd John Tinniswood ei eni yn Lerpwl ar 26 Awst 1912. Fe gyfarfu â'i wraig Blodwen Meiriona Roberts mewn dawns yn Lerpwl. 

Roedd hi'n hanu o Feirionnydd, a bu'r ddau gyda'i gilydd am 44 o flynyddoedd cyn ei marwolaeth yn 1986.  

Ers Ebrill diwethaf, Mr Tinniswood oedd y dyn hynaf ar y ddaear.   

Bu farw mewn cartref gofal yn Southport ar Lannau Mersi "gyda chariad a cherddoriaeth" o'i amgylch, medd datganiad ar ran ei deulu.   

Mae Mr Tinniswood yn gadael ei ferch Susan, pedwar o wyrion, a thri o or-wyrion. 

A fe yw'r pedwerydd dyn hynaf i fyw yn y Deyrnas Unedig, ar sail cofnodion hanesyddol.

 Brwd

Pan gafodd ei holi am ei gyfrinach pan yn dathlu ei ben-blwydd yn 112, dywedodd nad oedd ganddo gyfrinachau arbennig: “Ro'n  i'n eitha heini pan yn ifanc, roeddwn i'n cerdded llawer. 

"Ond dydw i ddim gwahanol i unrhywun arall, ” meddai. 

Roedd yn arfer bwyta pysgodyn a sglodion bob dydd Gwener, ond doedd e ddim yn glynu at ddeiet arbennig.   

Cafodd John Tinniswood ei eni yn y flwyddyn pan suddodd llong y Titanic. 

Roedd yn gyfrifydd ar gyfer cwmnïau olew Shell a BP cyn ymddeol yn 1972. 

Yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Lerpwl, cafodd ei eni ugain mlynedd yn unig wedi sefydlu'r clwb yn 1892.  

Y dyn hynaf yn y byd erioed oedd Jiroemon Kimura o Japan, a fu fyw am 116 o flynyddoedd a 54 diwrnod. Bu farw yn 2013.

Mae dynes hynaf y byd a pherson hynaf y byd yn byw yn Japan hefyd. Mae Tomiko Itooka yn 116 oed. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.