Mam o Ben Llŷn yn osgoi carchar ar ôl cyfaddef i bedwar achos o esgeuluso plant
Mae mam o Ben Llŷn wedi osgoi carchar ar ôl cyfaddef i bedwar achos o esgeuluso plant.
Roedd cartref y ddynes 33 oed, nad oes modd ei henwi, wedi ei ganfod mewn cyflwr “afiach” wedi i gymdogion ymchwilio ar ôl clywed larwm tân.
Dywedodd yr erlynydd Richard Edwards bod y cymdogion wedi dod o hyd i ddau blentyn yn noeth mewn cyntedd, a mwg trwchus yn dod o’r gegin.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod y fam wedi syrthio i gysgu tra bod bwrdd torri bwyd yn toddi ar ben tân yn y gegin.
Roedd hi wedi gorchuddio larwm tân arall gyda bag plastig am ei bod hi a ffrindiau yn smygu yn y stafell fyw. Daethpwyd o hyd i blentyn arall yn cysgu yn yr ystafell.
Roedd yna annibendod, carthion ar y llawr, dim arwydd o bethau ymolchi yn yr ystafell ymolchi, potel wedi torri, a dim dillad gwely.
Dywedodd John Wyn Williams wrth amddiffyn y fam bod “ei bywyd mewn lle anodd” ar y pryd.
Dywedodd yr Ustus Timothy Petts bod y tŷ wedi bod yn “llanast” ac yn “afiach”.
Ond ni achoswyd unrhyw niwed i’r plant.
Dywedodd y barnwr wrth y diffynnydd: “Mae’n amlwg fod gyda chi broblemau iechyd meddwl sylweddol.
“Doeddech chi ddim wedi gallu ymdopi gyda pha mor wael oedd pethau a ddim yn gwybod at bwy i droi.
“Dydw i ddim yn meddwl bod angen dedfryd o garchar.
“Mae angen cyfnod hir arnoch chi yn gweithio gydag arbenigwyr iechyd meddwl a'r gwasanaeth prawf.”
Cafodd y fam orchymyn gymunedol 18 mis gyda 120 diwrnod o fonitro ymatal rhag alcohol, triniaeth iechyd meddwl a 100 awr o waith di-dâl.