Mari Lovgreen: Profiad wedi geni yn ei chryfhau
Mae’r cyflwynydd Mari Lovgreen wedi dweud ei bod hi'n fwy gofalus o’i hiechyd ar ôl iddi gael profiad anarferol wedi genedigaeth ei babi cyntaf.
Fe gollodd Mari lawer o waed yn ystod yr enedigaeth ac roedd hi’n meddwl ei bod hi’n marw, ond yn yr wythnosau canlynol fe brofodd gyflwr sy'n cael ei alw'n 'baby pinks'.
Mae’n siarad am y profiad ym mhennod gyntaf cyfres newydd Dan y Lloer ar S4C.
“Odd yr holl adrenalin ‘ma wedyn," meddai gan ei gadael yn "methu cysgu".
"Ag o’n i yn yr ysbyty am ryw bump diwrnod achos bo fi i di colli cymaint o waed," meddai.
"Ond yr hira nesh i ddim cysgu, o’n i yn mynd yn manic, heb i fi sylwi o’n i yn teimlo yn ewfforig, yn ecstatic.
"O’n i y mwyaf creadigol dwi erioed wedi bod. O’n i yn teimlo ar ben y byd.”
Mae cyflwr y 'baby pinks', sydd hefyd yn cael ei alw yn postpartum euphoria gan rai, yn anarferol meddai.
Fe sylweddolodd ei mam a’i gŵr nad oedd hi yn cysgu dim ac roedd hi wedi bod heb gwsg am bron i bythefnos. Yn y diwedd roedd yn rhaid iddi gael meddyginiaeth i’w helpu i allu cysgu.
“Efo Betsan mi oedd o wedi mynd i’r pwynt lle oedd rhaid i fi gael cyffuriau ofnadwy o gryf nath llorio fi am fisoedd rili," meddai.
"Odd o’n anodd efo babi bach hefyd. Ti isio bod y fam orau. Da ni yn rhoi lot o bwysau ar ein hunain dwi’n meddwl.”
Mae’n dweud ar y rhaglen bod y profiad yn “ofnadwy ar y pryd “ond wedi ei chryfhau fel person.
“Mae o di rhoi persbectif i fi a tools sydd jest wedi neud i fi weld y byd mewn ffordd wahanol a gweld beth sydd yn bwysig a beth sydd ddim.”
Mae’r profiad hefyd wedi ei gwneud hi’n ofalus o’i hiechyd.
“Nath o neud i fi sylweddoli mae rhaid i ni edrych ar ôl ein hunain. Ma' dim cysgu am amser fel na yn mynd i neud unrhyw un yn sâl.”
Dyfodol amaeth
Mae Mari Lovgreen, sy'n byw ar fferm gyda'i gŵr a'i phlant yn ardal Llanerfyl ym Maldwyn, yn dweud yn y rhaglen ei bod yn pryderu a fydd yna ddyfodol i’w phlant yn y byd amaeth a bod angen rhoi cefnogaeth i ffermwyr.
"Mae o yn poeni fi achos dwi ddim yn gweld fydd ‘na lot o neb yn gallu hyd yn oed dewis ffermio fel gyrfa fel ma’ petha yn mynd rŵan," meddai.
"Mewn ardaloedd fel hyn, yn aml iawn, y ffermydd ydy’r teuluoedd Cymraeg hefyd. Felly os ydy’r ffermydd yn mynd, mae’n debygol bod y bobl ifanc yn mynd i symud i ffwrdd o’r ardal hefyd.”
Dan y Lloer ar S4C ddydd Llun, 2/12/24 am 20:00.