Carchar i ddyn wnaeth barlysu menyw wrth ffilmio ei hun yn gyrru gyda'i bengliniau
Mae dyn ifanc wnaeth ffilmio ei hun yn llywio ei gar gyda'i bengliniau wnaeth arwain at barlysu menyw wedi ei garcharu am ddwy flynedd a dau fis.
Fe darodd car George Taylor i mewn i gefn car menyw gan achosi iddi gael ei pharlysu.
Mae teulu'r fenyw wedi dweud bod eu bywydau wedi newid yn llwyr ar ôl yr hyn ddigwyddodd.
Fe recordiodd Taylor bump fideo o'i hun ar ei ffôn ar y ffordd i'r coleg fis Ionawr y llynedd.
Yn ôl Heddlu Norfolk roedd y fideos yn dangos y dyn 19 oed yn gyrru Volkswagen Golf ar gyflymder ac yn pasio ceir eraill tra'n defnyddio ei bengliniau ar y llyw.
Dim ond ers llai na 12 wythnos oedd Taylor o Stretham yn Sir Gaergrawnt wedi cael ei drwydded yrru.
Fe wnaeth o hefyd anfon negeseuon testun a gwneud dwy alwad ffôn.
Fe aeth o i mewn i gefn car Skoda oedd yn disgwyl troi gan achosi i'r gyrrwr gael ei pharlysu.
Mae'r fenyw, Catherine, sydd yn fam i un angen gofal ar hyd ei hoes.
Mewn datganiad fe ddywedodd ei theulu bod Catherine yn fenyw oedd â "hiwmor da ac yn llawn bywyd".
"Wnâi byth anghofio'r diwrnod pan gafon ni wybod ei bod hi wedi bod mewn damwain a chyrraedd yr ysbyty ac wynebu'r realiti y gallen ni ei cholli hi.
"Roedd clywed bod hi'n bosib na fyddai fy unig ferch yn goroesi yn dorcalonnus ac fel ei thad y cyfan roeddwn ni eisiau ei wneud oedd gwneud popeth yn well ar ei chyfer hi."
"Mae'r 22 mis diwethaf wedi bod yn drawmatig ac er na allai newid unrhywbeth dwi'n gobeithio trwy siarad fe allai wneud eraill yn ymwybodol o'r hyn sydd yn gallu digwydd ar y ffyrdd.
"Fe newidiodd bywyd Catherine mewn eiliad. Fydden ni ddim yn dymuno hynny ar unrhyw un."