Newyddion S4C

Y Swyddfa Dywydd dan y lach wedi Storm Bert

Storm Bert / Alex Barros-Curtis

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ei beirniadu am ei "diffyg gallu" i ragweld effaith Storm Bert.

Dros y penwythnos fe achosodd y storm ddifrod sylweddol i gartrefi a busnesau yng Nghymru, yn enwedig yn ardal Pontypridd.

Roedd tirlithriadau mewn rhai ardaloedd hefyd gan gynnwys Cwmtyleri, lle bu rhaid i bobl cael eu symud o'u tai.

Mae Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth y DU, Steve Reed wedi cael cais i adolygu rôl y Swyddfa Dywydd yn sgil y difrod.

Yn ôl Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Caerdydd, Alex Barros-Curtis, dylai'r rhybuddion tywydd fod wedi bod yn “oren neu'n goch”.

Yn Nhŷ’r Cyffredin dywedodd Mr Barros-Curtis fod ymateb y Swyddfa Dywydd wedi bod yn "araf a bod yna danamcangyfrif amlwg o effaith Storm Bert."

“Fe roddwyd rhybudd melyn yn hytrach nag oren neu goch. Mae ein hetholwyr wedi cael eu siomi gan hyn o’r blaen, ac ni all barhau i ddigwydd.”

Wrth ymateb dywedodd yr ysgrifennydd amgylchedd bod rhybuddion wedi eu rhoi mewn "amser digonol" yn y rhan fwyaf o'r ardaloedd a gafodd eu heffeithio.

 Ond ychwanegodd y bydd yn trafod y pryderon penodol ynglŷn â'r Swyddfa Dywydd gyda chydweithwyr er mwyn gweld os yna wersi i'w dysgu. 

Image
Cwmtyleri
Effaith y llifogydd yng Nghwmtyleri.

Yn ôl arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan roedd y diffyg rhybudd gan y Swyddfa Dywydd wedi bod yn rhwystr.

“Mae angen i bob un ohonom adlewyrchu ar hyn. Ond rydw i eisiau gwybod gan y Swyddfa Dywydd pam y cafodd rhybudd melyn ei gynnal am 48 awr," meddai.

“Dydw i ddim yn eu beio nhw, ond yr hyn rydw i eisiau ei wybod yw pam na wnaethon nhw newid eu negeseuon. O bosib y byddai hyn wedi cael effaith ar y datganiad cynghori llifogydd ynghylch a ddylai digwyddiad mawr neu argyfyngus gael ei alw ymlaen llaw."

'Rhybuddion mewn grym'

Ond mae'r Swyddfa Dywydd wedi amddiffyn eu penderfyniadau yn ystod y tywydd garw. 

“Roedd rhagolygon storm Bert wedi ei asesu’n drylwyr, gyda’r arwyddion cyntaf o dywydd gwael i’w gweld wythnos cyn y rhybuddion cyntaf a gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher 20 Tachwedd."

“Roedd nifer o rybuddion mewn grym cyn i’r system gyrraedd y DU," meddai'r llefarydd. 

Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod y rhybuddion ar gyfer Cymru wedi dangos y gallai llifogydd ddigwydd a fyddai yn effeithio ar gartrefi a busnesau ac achosi perygl i fywyd. 

“Roedd cyfanswm y glaw cafodd ei arsylwi yn cyd-fynd yn fras â’r rhagolygon a’r rhybuddion tywydd garw a gyhoeddwyd ymlaen llaw.”

Cymorth i bobl a busnesau

Mae rhybuddion llifogydd dal mewn grym mewn rhai o ardaloedd yng Nghymru.

Mae dau rybudd yn ei le ar gyfer Afon Gwy yn Nhrefynwy ac Afon Dyfrdwy ger Llangollen.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dweud eu bod yn cynnig arian i gartrefi a busnesau sydd wedi cael eu heffeithio.

Dywedodd Andrew Morgan wrth Newyddion S4C y bydd y cyngor yn sicrhau bod rhwng £1m i £2m ar gael i bobl a busnesau a gafodd eu heffeithio gan y storm.

Ychwanegodd y bydd yr holl drigolion a busnesau yn cael cynnig £1,000 i ddechrau gydag arian ychwanegol ar gael i fusnesau wneud addasiadau.

Mae'r cyngor hefyd yn dweud bydd £500,000 ar gael i gartrefi a busnesau sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.