Elusen Doddie Weir yn codi £18 miliwn ar gyfer ymchwil i glefyd motor niwron
Mae elusen a gafodd ei sefydlu gan gyn-seren rygbi’r Alban wedi codi mwy na £18 miliwn ar gyfer ymchwil i glefyd motor niwron.
Cafodd Doddie Weir ddiagnosis o'r clefyd – cyflwr prin sy’n niweidio’r system nerfol – yn 46 oed yn 2016.
Bu farw'r tad i dri o blant ar 26 Tachwedd 2022 ar ôl byw gyda'r cyflwr am bron i chwe blynedd.
Ers hynny mae Sefydliad My Name’5 Doddie – a gafodd ei sefydlu gan Doddie Weir yn 2017 – wedi cefnogi 40 o brosiectau. Mae'r prosiectau yn gwneud ymchwil i glefyd motor niwron yn y gobaith o ddarganfod triniaethau effeithiol, ac yn y pen draw, iachâd.
Mae'r cyflwynwyr Tudur Owen ac Owain Tudur Jones ymysg y Cymry sydd wedi codi arian ar gyfer yr elusen yn ogystal â chlybiau rygbi yng Nghymru, gyda'r Bala, Porthmadog a Dolgellau yn eu plith.
'Carreg filltir aruthrol'
Dywedodd Nicola Roseman, prif weithredwr Sefydliad My Name’5 Doddie, bod codi mwy na £18 miliwn yn "garreg filltir aruthrol".
"Mae’r garreg filltir ymchwil aruthrol hon o £18 miliwn yn dyst i’r miloedd o ymgyrchwyr a chefnogwyr sydd wedi cymryd yr awenau oddi ar Doddie wrth roi i Sefydliad My Name’5 Doddie," meddai.
"Mae’n gyflawniad gwych – ond mae gennym ni gymaint mwy i’w wneud."
Yn ôl Ms Roseman, fe ymgyrchodd Doddie Weir yn ddiflino i gael mwy o ymchwil i'r cyflwr.
"Roedd Doddie yn ddi-ildio yn ei ymgais i gael byd sy’n rhydd o glefyd motor niwron, ac mae'n fater i ni wireddu ei freuddwyd drwy roi mwy o arian i brosiectau ymchwil a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r rhai sydd â chlefyd motor niwron," meddai.
Mae tua 1,100 o bobol yn derbyn diagnosis o glefyd motor niwron yn y DU bob blwyddyn.
Daw’r newyddion am garreg filltir y sefydliad cyn digwyddiad Doddie Aid, a gafodd ei sefydlu gan gyn-gapten yr Alban, Rob Wainwright, yn 2021.
Bydd yn dechrau ar 1 Ionawr, ac mae disgwyl i filoedd o bobol gerdded, rhedeg, nofio a beicio i godi arian ar gyfer yr elusen.
Bydd pob gwlad yn y DU yn cael eu harwain gan ddau gapten enwog a fydd yn cael eu cyhoeddi fis nesaf.