Prif Weinidog yn addo diogelu tomennydd glo Cymru ar ôl tirlithriad
Prif Weinidog yn addo diogelu tomennydd glo Cymru ar ôl tirlithriad
Mae Prif Weinidog Cymru wedi addo diogelu tomennydd glo Cymru yn dilyn tirlithriad ar ôl Storm Bert.
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod tomen lo a lithrodd yng Nghwmtyleri yn un categori D, oedd a’r mwyaf o beryg o effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan, a fu’n ymweld â Phontypridd ddydd Llun, y byddai Llywodraeth Cymru yn cadw llygad barcud ar domennydd glo yn yr ardal.
“Fe fyddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein grym i wneud yn siŵr ein bod ni’n cadw’r buddsoddiad a’n amddiffyn y tomennydd hynny rhag unrhyw dirlithriadau,” meddai.
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n archwilio tomennydd glo gradd C a D yn gyson.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod ein cymunedau glofaol yn ddiogel, nawr ac yn y dyfodol.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda chyngor Blaenau Gwent a’r Awdurdod Glo i ddarparu cefnogaeth i’r trigolion ac i sicrhau bod yr ardal yn ddiogel."
Roedd y gwasanaethau brys wedi galw ar bobol yng Nghwmtyleri i adael eu tai ar ôl y tirlithriad nos Sul.
“Rydym yn gwneud trefniadau ar gyfer y rhai sydd wedi'u heffeithio ac mae canolfan loches wedi'i sefydlu yng Nghanolfan Chwaraeon Abertyleri,” medden nhw.
'Ddim erbyn y Nadolig'
Wrth siarad ag asiantaeth newyddion PA, dywedodd Luc Robertson, un o drigolion Woodland Terrace yng Nghwmtyleri: “Doedden ni ddim yn ei ddisgwyl, doedden ni heb baratoi ar ei gyfer na dim byd, ond yn amlwg rydym yn falch nad oes neb wedi’i anafu.
“Roedd yna lithriad bach ychydig o flynyddoedd yn ôl ond doedd o ddim ar y raddfa hon.
“Yr holl falurion, dyna beth sydd wedi achosi’r llanast, mae’n mynd i fod yn waith glanhau enfawr.”
Dywedodd Mr Robertson ei fod ef a'i bartner wedi bod yn lwcus, gan osgoi'r gwaethaf o'r tirlithriad.
“Fe chwalodd garej, dwi’n meddwl, grym y dŵr yn rhedeg heibio, mae’n lwcus na chafodd neb ei frifo,” meddai.
Dywedodd Rob Scholes, 75, sydd hefyd yn un o drigolion Woodland Terrace: “Fe gawson ni ein symud allan neithiwr, daeth y mwd i fyny - mae eisoes wedi mynd i lawr.
“Ffoniodd fy nghymydog a dweud ‘peidiwch ag agor eich drws ffrynt’, felly wnes i ddim ac fe wnaethon ni ei wylio’n dod i fyny.
“Rydw i newydd ddod yn ôl y bore yma i weld y difrod.
“A dweud y gwir, dwi wir ddim yn meddwl y byddwn ni’n clirio hyn erbyn y Nadolig.”
'Gwneud mwy'
Mae gwleidyddion gan gynnwys arweinydd cyngor ac AS y Rhondda ac aelodau o Senedd Cymru wedi galw am atebion yn sgil y difrod a wnaeth gan y llifogydd a’r tirlithriadau.
Daw’r difrod bedair blynedd wedi golygfeydd tebyg ym mis Chwefror 2020 yn sgil Storm Dennis.
Dywedodd arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf Andrew Morgan ei fod yn “synnu” mai rhybudd melyn yn unig oedd ar gyfer y storm.
Weth ymateb i'r cymorth fydd ar gael, dywedodd y bydd £1,000 yn cael ei roi i drigolion a busnesau fel cam cychwynnol, a bydd rhagor o gyllid ar gael i fusnesau wneud newidiadau hirdymor.
Dywedodd Chris Bryant, AS Rhondda ac Ogwr, y byddai angen “ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd”.
“Mae llawer ohonon ni, ac yn sicr yn y cyngor, o’r farn y dylai rhybudd brys fod wedi bod nos Sadwrn,” meddai.
“Ac rwy’n meddwl bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu nad oedd hynny’n angenrheidiol.
“Dwn i ddim ai’r rheswm am hynny yw bod y Swyddfa Dywydd wedi dweud nad oedd angen un - roedd disgwyl y glaw yn llawer hwyrach ddydd Sul, mae’n debyg.
“Ond wrth gwrs, os oedd pobl wedi cael mwy o rybudd, efallai y bydden nhw wedi gallu gwneud mwy.”
‘Brys’
Yn ôl Pennaeth Gweithredu Gogledd-orllewin Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru, Siân Williams fe fyddan nhw yn craffu i weld a oedd y rhybuddion yn ddigonol.
“Mi oedd ‘na rybudd ‘Byddwch yn barod’ yn eitha’ buan yn y broses nos Sadwrn ond 'da ni wedi clywed rhai adroddiadau neithiwr ac eto bore ‘ma bod pobl ddim wedi cael digon o rybudd o’r ail lefel fel petai," meddai wrth Radio Cymru.
“Da ni’n cael ‘Byddwch yn barod’ wedyn ‘Rhybudd llifogydd’ ydy’r ail lefel pan da ni’n teimlo bod llifogydd yn fwy tebygol.
“Mae ‘na rai pobl sy’n dweud gathon nhw ddim digon o amser i baratoi ar ôl derbyn hynny cyn i’r llifogydd daro.
“Bydd hynny yn rhywbeth da ni’n sbïo ar rŵan."
Ychwanegodd y bydd y corff yn ceisio dod i ddeall oes ‘na “wersi sydd angen eu dysgu” ar gyfer y dyfodol.
Galw am 'ymchwiliad annibynnol'
Mae aelod Senedd Cymru, sy'n cynrychioli Plaid Cymru ac yn byw ym Mhontypridd wedi yn galw am “ymchwiliad annibynnol” yn dilyn y llifogydd dinistriol.
Wrth siarad ar raglen BBC Radio Cymru fore Llun, dywedodd Heledd Fychan, AS dros Ganol De Cymru, bod trigolion yn wynebu “trawma” oherwydd y “risg parhaus” o lifogydd yn yr ardal.
“Dyw e ddim jyst atgyweirio tai - mae e’n drawma i bobl sy’n mynd trwy hyn," meddai.
"Mae gwylio’r afon bob tro mae’n bwrw glaw yn drwm yn meddwl: ‘Ydw i’n mynd i’w chael hi y tro ‘ma? Ydw i’n ddiogel yn fy nghartref?’
“Mae ‘na un stryd jyst lawr y lon yn Ynysybwl lle mae trigolion wedi cael ar wybod does ‘na ddim modd diogelu eu cartrefi ar y funud a bod ‘na risg o farw yn eu tai.
“Da ni ddim efo fforwm llifogydd i Gymru. Da ni ddim yn cefnogi’n ymarferol cymunedau sy’n wynebu’r risg parhaus yma."
'Dim digon o rybudd'
Daw ei sylwadau wedi i rai pobl leol fynegi rhwystredigaeth gan ddweud nad oedd digon o rybudd er mwyn paratoi.
Yn ôl John Pockett, sydd yn byw yn lleol, doedd yna ddim cefnogaeth wedi'r glaw chwaith.
"Odd rhaid i ni neud ein paratoadau ein hunain. Odd dim sôn am neb o gwbl, y cyngor ac mae'n ddrwg da fi ond yr appalling NRW, neb wedi dod o rheina," meddai wrth BBC Radio Cymru.
Dywedodd hefyd mai trigolion oedd yn cnocio drysau i wneud yn siŵr bod pobl yn saff ac nid swyddogion o'r cyrff cyhoeddus.
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn San Steffan Steve Reed wedi dweud fod ei lywodraeth yn "barod" i gynnig cymorth pellach i gymunedau yng Nghymru sydd wedi eu taro gan y llifogydd.
Dywedodd: “Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi siarad â Phrif Weinidog Cymru gan gynnig cymorth ychwanegol os ydyn nhw ei angen yng Nghymru.
“Hyd yn hyn, dy'n nhw ddim wedi dweud eu bod angen hynny.
“Ond ry'n ni yn barod i gynnig pa bynnag gymorth ychwanegol sydd ei angen i'r rhannau hynny o Gymru sydd wedi eu taro waethaf gan y llifogydd.”