Newyddion S4C

Carcharu dyn o Sir Gâr am droseddau rhyw yn erbyn plentyn

25/11/2024
Alexander Wilson

Mae dyn 45 oed o Sir Gâr wedi ei garcharu ar ôl i lys ei gael yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plentyn. 

Roedd Alexander Wilson o Lanelli wedi ei gyhuddo o ddau achos o dreisio plentyn o dan 13 oed, ac un achos o annog plentyn o dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithred rywiol.  

Mae e bellach wedi cael dedfryd o garchar am 17 mlynedd, a thair blynedd ychwanegol ar drwydded.  

Bydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o ddwy ran o dair o'i ddedfryd o dan glo.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Chris Medlicott: "Mae Alexander Wilson yn droseddwr rhyw peryglus a gymrodd fantais o blentyn yn ei ofal mewn modd ffiaidd.  

"Bydd y difrod y mae wedi ei achosi i'r dioddefwr yn parhau." 

Llun:Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.