Newyddion S4C

Rygbi: Liam Williams yn gadael ei glwb yn Japan ar gyfer genedigaeth ei blentyn cyntaf

25/11/2024
Liam Williams - Aws v Cym 2023

Bydd cefnwr Cymru Liam Williams yn dychwelyd adref ar ôl cyhoeddi ei fod yn gadael ei glwb yn Japan “am resymau teuluol”.

Roedd Williams, 33 oed, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda chlwb Kubota Spears, ond mae’n gadael y clwb ar ôl un tymor.

Dywedodd ei fod yn awyddus i symud yn ôl adref at ei wraig, sydd yn feichiog ac yn disgwyl rhoi genedigaeth ym mis Tachwedd.

“Roedd penderfynu gadael Japan yn benderfyniad anodd iawn, ond mae fy ngwraig a finnau yn edrych ymlaen at groesawu ein plentyn cyntaf yn fuan, ac wrth i ni agosáu at y cyfnod arbennig hwn, rydym yn teimlo ei fod yn bwysig i mi ddychwelyd at fy nheulu,” meddai mewn datganiad.

Mae adroddiadau ar Wales Online yn awgrymu y bydd yn arwyddo dros ei gyn glwb, Saracens, sydd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Daw wedi i Williams gynnal trafodaethau aflwyddiannus dros ymuno gydag un o ranbarthau Cymru dros yr haf.

Nid oedd Williams yn rhan o garfan Cymru ar gyfer gemau’r hydref, oherwydd anaf.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.