‘Dileu’ targed Llywodraeth Cymru ar blannu coed ar ffermydd
‘Dileu’ targed Llywodraeth Cymru ar blannu coed ar ffermydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n “dileu” targed a fyddai wedi gofyn i ffermio sicrhau bod o leiaf 10% o’u ffermydd wedi eu gorchuddio gan goed cyn derbyn cyllid.
Dywedodd y llywodraeth y bydd y targed yn cael ei ddisodli gan darged ar gyfer y cynllun ar draws Cymru gyfan yn hytrach na ffermydd unigol.
Daw wrth i’r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies, gyhoeddi newidiadau i gynllun amaeth y llywodraeth yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.
Nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy'n gwobrwyo ffermydd am ddulliau ffermio sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd oedd bod ffermwyr yn plannu coed ar 10% o’u tir a neilltuo 10% arall ar gyfer cynefinoedd.
Ond roedd wedi arwain at brotestiadau chwyrn gan ffermwyr, gan gynnwys y tu allan i’r Senedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dileu y gofyniad cyntaf ar blannu coed ond wedi cadw'r ail ar gynefinoedd.
“Roedd hi'n amlwg bod angen newidiadau - dywedon ni y bydden ni'n gwrando - ac rydyn ni wedi gwneud hynny,” meddai Huw Irranca-Davies.
"Rydyn ni wedi cyflawni llawer iawn – ond mae mwy o waith i'w wneud.”
Nodwyd hefyd bod nifer y Gweithredoedd Sylfaenol wedi’u lleihau o 17 i 12, a bydd Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ardaloedd sy’n gysylltiedig â hawliau pori tir comin bellach yn gymwys ar gyfer cyfran o’r Taliad Sylfaenol Cyffredinol.
Dywedodd Huw Irranca-Davies y bydd y penderfyniad ar y Cynllun terfynol yn cael ei wneud yr haf nesaf.
'Limbo'
Wrth ymateb dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod yr ansicrwydd i ffermwyr yn parhau.
Dywedodd llefarydd y blaid ar amaeth yn y Senedd, James Evans, ei fod yn “gam cadarnhaol”.
Ond “mae llawer mwy o benderfyniadau allweddol i’w gwneud o hyd, ac nid oes cyfradd dalu ynghlwm wrth y cynllun o hyd, sy’n ei gwneud yn anodd iawn i ffermwyr gynllunio yn y tymor hwy, sy’n parhau i adael y sector mewn limbo,” meddai.
“Yn anffodus, mae rhwyg enfawr yn dal i fodoli rhwng Llafur a’r gymuned ffermio oherwydd sut mae’r cynllun hwn wedi’i ddatblygu a nawr y newidiadau newydd i dreth etifeddiant,” meddai.
“Felly er bod rhywfaint o newyddion cadarnhaol heddiw, mae ffermwyr ledled Cymru yn dal yn amheus a fydd hyn yn gynllun sy'n gweithio iddyn nhw.”
'Cam pwysig'
Dywedodd undebau ffermio Cymru eu bod nhw'n croesawu'r newid cyfeiriad.
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman bod y gwaith dros y misoedd diwethaf "wedi bod yn sylweddol".
"Rydym wedi croesawu'r cydweithio a'r cyfle i ymgysylltu ar y lefel hon ac yn credu ein bod bellach mewn lle gwell o ganlyniad i hyn," meddai.
"Fodd bynnag, un cam ymlaen yn unig yw'r cyhoeddiad heddiw, ac mae lefel uchel o fanylion o hyd i weithio drwyddo a'i gadarnhau, gyda'r dadansoddiad economaidd diweddaraf a'r asesiadau effaith o bwysigrwydd hanfodol.
"Gyda dyluniad Cynllun mwy hygyrch a hyblyg yn dilyn newidiadau sylweddol, mae'n rhaid i ni nawr sicrhau bod y gyllideb a'r fethodoleg taliadau cysylltiedig yn sicrhau sefydlogrwydd economaidd gwirioneddol i'n ffermydd teuluol yng Nghymru wrth i ni wynebu llu o heriau eraill."
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones ei fod yn "gam pwysig ymlaen wrth ddatblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy".
"Mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd ar sawl agwedd ar y cynllun, gan gynnwys y manylion o dan bob Gweithred Cyffredinol a chyfraddau talu," meddai.
"Os byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth rwy’n hyderus y gall y Cynllun hwn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer bwyd, natur, yr hinsawdd a chymunedau."