Galw am 'ymchwiliad annibynnol' wedi'r llifogydd ym Mhontypridd
Mae aelod Senedd Cymru, sy'n cynrychioli Plaid Cymru ac yn byw ym Mhontypridd, yn galw am “ymchwiliad annibynnol” yn dilyn llifogydd dinistriol yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf.
Wrth siarad ar raglen BBC Radio Cymru fore Llun, dywedodd Heledd Fychan, AS dros Ganol De Cymru, bod trigolion yn wynebu “trawma” oherwydd y “risg parhaus” o lifogydd yn yr ardal.
Fe gafodd Pontypridd lifogydd difrifol yn 2020 o achos Storm Dennis. Mae Storm Bert wedi achosi difrod unwaith eto dros y penwythnos .
Ardal Cwr Stryd y Felin cafodd ei heffeithio fwyaf yn y dref, gyda nifer o fusnesau yno wedi dioddef.
Wrth siarad â BBC Radio Cymru, dywedodd Jayne Rees, sy'n byw yn lleol: "'Odd 'na griw o ryw 6 neu 7 o flaen Clwb y Bont. 'Odd 'na wirfoddolwyr ar bwys yr amgueddfa a'u bwcedi yn tywallt y dŵr mewn i'r afon.
"Dyna beth yw cymuned mewn tref fel Pontypridd. O gofio beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol mae pawb ond yn barod i ddod allan i helpu."
'Trawma'
Mae Heledd Fychan AS yn dweud bod hi'n "dorcalonnus" gweld busnesau yn dioddef yn sgil llifogydd unwaith eto, gyda nifer yn gorfod "ail-ddechrau".
Does yna ddim yr un nifer o dai a busnesau wedi eu heffeithio gan y llifogydd y tro yma, meddai hi. Ond mae'r AS yn dweud bod hi'n “eithriadol o bwysig” i sicrhau bod cefnogaeth hirdymor ar gael i'r trigolion.
“Dyw e ddim jyst atgyweirio tai – mae e’n drawma i bobl sy’n mynd trwy hyn," meddai.
"Mae gwylio’r afon bob tro mae’n bwrw glaw yn drwm yn meddwl: ‘Ydw i’n mynd i’w chael hi y tro ‘ma? Ydw i’n ddiogel yn fy nghartref?’
“Mae ‘na un stryd jyst lawr y lon yn Ynysybwl lle mae trigolion wedi cael ar wybod does ‘na ddim modd diogelu eu cartrefi ar y funud a bod ‘na risg o farw yn eu tai.
“Da ni ddim efo fforwm llifogydd i Gymru. Da ni ddim yn cefnogi’n ymarferol cymunedau sy’n wynebu’r risg parhaus yma."
'Dinistr llwyr'
Mae’n dweud bod angen ymchwiliad annibynnol er mwyn deall y “risg parhaus” y mae pobl leol yn wynebu.
“Beth sy’n anffodus ydy bod Llywodraeth Llafur Cymru wedi gwrthod cael ymchwiliad annibynnol i lifogydd 2020… er mwyn deall y risg, oherwydd ‘da ni yn gweld y tywydd eithafol ‘ma," meddai.
“Yr unig beth oedd yn dda clywed oedd bod nifer o bobl wedi dweud wrtha fi bod y clwydi atal llifogydd maen nhw wedi cael wedi gwneud gwahaniaeth y tro ‘ma.
“Dim ond rhai modfeddi ddoth mewn i fusnesau o gymharu â be welsom ni yn 2020… ond hyd yn oed gyda modfeddi mae hwnna yn creu dinistr llwyr wrth gwrs.”
'Dim digon o rybudd'
Daw ei sylwadau wedi i rai pobl leol fynegi rhwystredigaeth gan ddweud nad oedd digon o rybudd er mwyn paratoi.
Yn ôl John Pockett, sydd yn byw yn lleol doedd yna ddim cefnogaeth wedi'r glaw chwaith.
"Odd rhaid i ni neud ein paratoadau ein hunain. Odd dim sôn am neb o gwbl, y cyngor ag mae'n ddrwg da fi ond yr appalling NRW, neb wedi dod o rheina," meddai wrth BBC Radio Cymru.
Dywedodd hefyd mai trigolion oedd yn cnocio drysau i wneud yn siŵr bod pobl yn saff ac nid swyddogion o'r cyrff cyhoeddus.
Mae Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf Andrew Morgan OBE wedi dweud ei fod wedi rhyfeddu mai rhybudd melyn yn unig gafodd ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer y storm.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am osod rhybuddion pe bai ‘na beryg o lifogydd gan afonydd.
Yn ôl Pennaeth Gweithredu Gogledd-orllewin Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru, Siân Williams fe fyddan nhw yn craffu i weld os oedd y rhybuddion yn ddigonol.
“Mi oedd ‘na rybudd ‘Byddwch yn barod’ yn eitha’ buan yn y broses nos Sadwrn ond da ni wedi clywed rhai adroddiadau neithiwr ac eto bore ‘ma bod pobl ddim wedi cael digon o rybudd o’r ail lefel fel petai," meddai wrth Radio Cymru.
“Da ni’n cael ‘Byddwch yn barod’ wedyn ‘Rhybudd llifogydd’ ydy’r ail lefel pan da ni’n teimlo bod llifogydd yn fwy tebygol.
“Mae ‘na rai pobl sy’n dweud gathon nhw ddim digon o amser i baratoi ar ôl derbyn hynny cyn i’r llifogydd daro.
“Bydd hynny yn rhywbeth da ni’n sbïo ar rŵan."
Ychwanegodd y bydd y corff yn ceisio dod i ddeall oes ‘na “wersi sydd angen eu dysgu” ar gyfer y dyfodol.
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn San Steffan Steve Reed wedi dweud fod ei lywodraeth yn "barod" i gynnig cymorth pellach i gymunedau yng Nghymru sydd wedi eu taro gan y llifogydd.
Dywedodd: “Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi siarad â Phrif Weinidog Cymru gan gynnig cymorth ychwanegol os ydyn nhw ei angen yng Nghymru.
“Hyd yn hyn, dy'n nhw ddim wedi dweud eu bod angen hynny.
“Ond ry'n ni yn barod i gynnig pa bynnag gymorth ychwanegol sydd ei angen i'r rhannau hynny o Gymru sydd wedi eu taro waethaf gan y lifogydd.”