Newyddion S4C

Tynged Gatland yn dibynnu ar adolygiad yr Undeb

25/11/2024
Warren Gatland

Mae tynged Prif Hyfforddwr Rygbi Cymru yn dibynnu ar adolygiad yr undeb o gyfres yr Hydref.

Mae Warren Gatland dan bwysau ar ôl i'r tîm cenedlaethol golli 12 gem yn olynol.

Ar ôl cyfarfod blynyddol yr Undeb dywedodd y Cadeirydd Richard Collier-Keywood "nad adolygiad o berfformiad Warren Gatland" yw hwn ond o "berfformiad" Undeb Rygbi Cymru.

Ychwanegodd y bydd Gatland yn rhan o'r adolygiad ond y bydd elfennau eraill hefyd yn cael eu hystyried.

Dywedodd fod y canlyniadau diweddar yn "siomedig".

"Mae'n grŵp o chwaraewyr ifanc iawn ac mi ydyn ni wedi colli llawer o brofiad. Does yna ddim atebion cyflym i drwsio hyn," meddai.

Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan Abi Tierney, Prif Weithredwr yr Undeb ond fe fydd mewnbwn gan gyfarwyddwr gweithredol rygbi URC, Nigel Walker. Bydd yr aelod bwrdd Jamie Roberts a'r llywydd Terry Cobner hefyd yn cyfrannu.

Ffrainc fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddiwedd mis Ionawr. Dyw hi ddim yn glir os fydd Gatland dal wrth y llwy adeg hynny. 

Ond mae Collier-Keywood wedi dweud os bydd Gatland yn gadael mae'n debygol mai hyfforddwr dros dro fyddai yn cael ei rhoi yn ei le. 
 

 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.