Storm Bert: Rhybuddion am lifogydd pellach 'all beryglu bywyd'
Mae 'na rybuddion am lifogydd difrifol “all beryglu bywyd” mewn grym yn dilyn dinistr Storm Bert ar hyd a lled Cymru yn ystod y penwythnos.
Ac mae nifer o ysgolion wedi cau yng Nghaerffili a Sir Fynwy ddydd Llun o achos y difrod, wrth i'r ymdrechion ddechrau i lanhau ardaloedd.
Mae dau rybudd difrifol am lifogydd all beryglu bywyd mewn grym ar gyfer Afon Mynwy ym mhentref Ynysgynwraidd a maestref (suburb) Osbaston yn Sir Fynwy.
Mae 8 o rybuddion am lifogydd mewn grym mewn mannau eraill o’r wlad, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud fod angen “gweithredu ar frys.”
Fe all llifogydd pellach ddigwydd mewn sawl ardal ger afonydd Gwy, Wysg, Tywi, Llwyd, Taf, Elai a Hafren.
Cafodd rhannau helaeth o dde Cymru ei daro gan dywydd gwael ddydd Sul gan achosi llifogydd mewn ardaloedd yn y de-ddwyrain. Cafodd y gogledd-orllewin ei effeithio hefyd.
Fe gyhoeddodd Cyngor Rhondda Taf ddigwyddiad o bwys ('major incident') o achos llifogydd yn yr ardal fore dydd Sul.
Berwi dŵr
Mae Dŵr Cymru wedi dweud eu bod yn disgwyl y bydd yn rhaid i nifer o bobl yn Rhondda Cynon Taf ferwi eu dŵr hyd at ddiwedd yr wythnos o achos problemau gydag ansawdd dŵr yng Ngwaith Trin Dŵr Tynywaun.
Inline Tweet: https://twitter.com/DwrCymru/status/1860926018007028063
Fe gyhoeddodd y cwmni rhybudd berwi dŵr fore Sul yn dilyn llifogydd yn yr ardal.
Mae'n bosib bod tapiau dŵr trigolion yn ardaloedd Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Pentre, Ton Pentre, Gelli, Tonypandy wedi eu halogi meddai Dŵr Cymru.
Teithio
Mae nifer o ffyrdd yn parhau ar gau o achos y llifogydd ac mae gwasanaethau trenau hefyd wedi cael eu heffeithio fore Llun.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi annog pobl i wirio cyn teithio. Dywedodd llefarydd mai diogelwch cwsmeriaid a chyd-weithwyr yw’r “flaenoriaeth.”
Mae’r gwasanaeth trên rhwng Llanhilleth a Glyn Ebwy ym Mlaenau Gwent wedi ei ganslo hyd at ddiwedd y dydd o achos llifogydd ar y cledrau.
Does ‘na ddim trenau chwaith yng Nghaerdydd rhwng Radyr a Threherbert, Merthyr Tudful ac Aberdâr.
Bydd gwasanaeth bysiau rhwng Radyr ac Aberdâr ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio bod yna bosibilrwydd o oedi ar y ffyrdd yn sgil y llifogydd.
Fydd yna chwaith ddim gwasanaeth trenau rhwng Y Fenni a Henffordd yn ystod y dydd o achos tirlithriad oherwydd llifogydd.
Mae ‘na gyfyngiadau ar Bont Britannia yn dilyn rhybudd am wyntoedd cryfion.