Abertyleri: Gofyn i bobl adael eu tai wedi adroddiadau am dirlithriad
Mae’r gwasanaethau brys wedi gofyn i bobl adael nifer o gartrefi yn Abertyleri, yn ôl y cyngor sir.
Daw hyn wrth i fideos a gyhoeddwyd ar y cyfryngau cymdeithasol awgrymu bod tirlithriad wedi digwydd yn y dref ym Mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Mae’r delweddau'n dangos mwd mewn stryd ger ceir ac adeiladau. Dywedodd un llygad-dyst Wayne Green ei fod yn ymddangos bod tirlithriad wedi digwydd yno a'i fod yn "ofnadwy".
Does dim adroddiadau eto am unrhyw anafiadau.
Dywedodd Cyngor Blaenau Gwent fod cynnig i bobl lochesu mewn canolfan chwaraeon gyfagos.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Blaenau Gwent: “Rydym yn ymwybodol bod y gwasanaethau brys wedi gofyn i bobl adael nifer o gartrefi yn ardal Cwmtyleri yn Abertyleri.
“Rydym yn gwneud trefniadau ar gyfer y rhai sydd wedi'u heffeithio ac mae canolfan lloches wedi'i sefydlu yng Nghanolfan Chwaraeon Abertyleri.
“Rydym ar y safle gyda phartneriaid yn asesu'r sefyllfa.”
Daw'r digwyddiad yn sgil glaw trwm iawn ar ôl Storm Bert dros y penwythnos.
Llun: Gail Abbie.