Leicester City'n diswyddo'r Cymro Steve Cooper fel rheolwr
Mae clwb pêl-droed Leicester City wedi diswyddo'r Cymro Steve Cooper o'i swydd fel rheolwr wedi 12 gêm yn unig yn Uwchgynghrair Lloegr.
Dim ond dwy gêm mae'r clwb wedi eu hennill y tymor hwn, ac maen nhw'n safle 16 yn y gynghrair.
Collodd y clwb yn erbyn Chelsea o 2-1 ddydd Sadwrn.
Cafodd Cooper ei benodi ym mis Mehefin eleni, ac fe gymrodd yr awenau wrth i’r clwb baratoi i ddychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr, ar ôl ennill y Bencampwriaeth y tymor diwethaf.
Cyn hynny roedd Cooper, sy’n dod o Bontypridd, wedi bod allan o waith ers gadael Nottingham Forest fis Rhagfyr y llynedd.
Roedd y cyn chwaraewr i Wrecsam, Bangor a Rhyl yn boblogaidd ymysg cefnogwyr Forest ar ôl iddo arwain y clwb at ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2022, a llwyddo i osgoi cwympo oddi yno y tymor canlynol.