Gweinidog Addysg: Achos i newid trefn hunan-ynysu plant a phobl ifanc

Gweinidog Addysg: Achos i newid trefn hunan-ynysu plant a phobl ifanc
Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud "bod yna achos" dros beidio gofyn i blant a phobl ifanc dan 18 oed i hunan-ynysu os yw cysylltiad agos yn cael prawf positif Covid-19.
"Ma'r Prif Weinidog wedi dweud os oes gennych chi ddau frechlyn yna bydd dim gofyniad i chi, a ni'n credu bod achos i ymestyn hynny i blant a bobl ifanc dan 18," meddai Jeremy Miles wrth raglen Newyddion S4C.
Dan y drefn byddai dal disgwyl i bobol ifanc a phlant sy'n profi'n bositif hunan-ynysu.
"Y ddau grŵp o bobl sy'n lleiaf tebygol o fynd yn sâl iawn yn sgil Covid yw pobl sy' di cael dau frechiad a phobl ifanc a phlant," ychwanegodd y Gweinidog Addysg.
"Ond i ni'n trafod hyn ar hyn o bryd gyda phartneriaid yn y system addysg, ac yn ehangach na hynny, ac yn neud penderfyniad yn sgil hynny.
Mae disgwyl penderfyniad ddechrau mis Awst pan fydd y llywodraeth hefyd yn penderfynu os ddylid cael gwared ar y rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid-19.
Yn y cyfamser mae Plaid Cymru wedi galw ar y llywodraeth i barhau gyda'r rheolau presennol os yw achosion yn parhau i gynyddu.