Newyddion S4C

Y chwilio'n parhau am redwr aeth ar goll yn ardal Llanrwst

24/11/2024

Y chwilio'n parhau am redwr aeth ar goll yn ardal Llanrwst

Mae'r gwasanaethau brys wedi ailddechrau'r chwilio fore dydd Sul am redwr coll yn ardal Llanrwst yn Sir Conwy.

Mae'r ardal rhwng Llanrwst a Threfriw wedi profi llifogydd yn ystod y dyddiau diwethaf o ganlyniad i Storm Bert.

Yn ôl adroddiadau fe ddechreuodd yr ymdrech nos Sadwrn i ddod o hyd i'r dyn ar ôl i'w deulu godi pryder amdano wedi iddo fethu a dychwelyd ar ôl bod yn rhedeg gyda'i gi.

Roedd gwasanaeth Gwylwyr y Glannau ynghyd â Thîm achub Mynydd Ogwen wedi rhoi cymorth i Heddlu Gogledd Cymru yn y chwilio.

Dywedodd llefarydd ar ran y tîm achub mynydd wrth Newyddion S4C fore dydd Sul eu bod nhw’n dal yn yr ardal.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod hofrennydd o Gaernarfon wedi ymuno â’r chwilio a bod y chwilio “wedi dod i ben”.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau: "Cafodd Gwylwyr y Glannau EF y dasg o gynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru i chwilio am redwr coll yn Llanrwst ddoe, [dydd Sadwrn] 23 Tachwedd am tua 6:15pm. 

"Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau o Gaernarfon ei anfon ochr yn ochr â Thîm Achub Ogwen. 

"Daeth yr hofrennydd â’r chwilio i ben neithiwr."

Llun: Mostyn Jones

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.