Newyddion S4C

Elfyn Evans yn gyntaf yn Rali Japan ag ail ym Mhencampwriaeth y Byd

24/11/2024
Elfyn Evans - Rali Japan

Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi ennill Rali Japan ar ddiwedd cymalau olaf ddydd Sul

Roedd Evans yn yr ail safle tu ôl i Ott Tänak o Estonia yn Dilyn cymalau dydd Sadwrn.

Ond fe gafodd Tänak ddamwain ar y cymal cyntaf ddydd Sul gan adael Evans ar y blaen.

Fe lwyddodd Evans a’i gyd-yrrwr Scott Martin i ddal eu gafael ar eu blaenoriaeth am weddill cymalau’r dydd.

Mae’r fuddugoliaeth gyntaf i Evans ar rali ola’r tymor yn golygu ei fod yn gorffen Pencampwriaeth y Byd yn yr ail safle tu ôl i Thierry Neuville o Wlad Belg.

Dywedodd Evans: “Doedd e ddim yn edrych cystal ar un adeg, ond rydyn ni’n hapus iawn gyda’r canlyniad ac i’r tîm.

“Diolch i aelodau’r tîm i gyd hefyd, fe wnaethon nhw waith gwych. Mae'n ddrwg gennym na allem gyflawni pencampwriaeth [y gyrwyr], ond byddwn yn ceisio eto'r flwyddyn nesaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.