Crasfa i Gymru yn erbyn De Affrica a'r pwysau ar Gatland yn cynyddu
Fe gollodd Cymru yn ôl y disgwyl o 12-45 yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd nos Sadwrn.
Roedd cryn bwysau ar brif hyfforddwr Cymru Warren Gatland cyn y gêm a bydd y pwysau hynny yn sicr o gynyddu ymhellach yn dilyn y golled yn erbyn De Affrica.
Roedd Gatland wedi gwneud pedwar newid i’w dîm i wynebu’r Springboks, gyda Blair Murray yn cymryd lle’r cefnwr Cameron Winnett, a Rio Dyer yn ymddangos ar yr asgell.
Bu'n rhaid i Gymru wneud newid hwyr yn y rheng flaen gyda Nicky Smith yn cymryd lle Gareth Thomas.
Gyda Chymru'n gwisgo crysau gwynion cafwyd munudau agoriadol eithaf egnïol.
De Affrica oedd y tîm oedd yn ymosod ac wrth ddynesu at llinell gais Cymru fe ildiodd y Springboks y bêl gan roi'r cyfle i Gymru glirio.
Ond yn fuan wedyn fe redodd yr ymwelwyr y bêl yn llydan gyda'r ail reng Franco Mostert yn carlamu am gais. Fe drosodd y maswr Jordan Hendrikse. Cymru 0-7 De Affrica.
Aeth pethau o ddrwg i waeth yn fuan wedi hynny gyda De Affrica yn lledu'r bêl unwaith yn rhagor gyda'r ail reng arall Eben Etzebeth, yn ennill cap rhif 131, yn croesi am gais.
Mantais o 12 pwynt i Dde Affrica ar ôl wyth munud.
Bu'n rhaid i faswr Cymru Sam Costelow adael y cae ar ôl 10 munud am asesiad yn dilyn ergyd i'w ben gyda Ben Thomas yn symud o'r canol yn ei le. Ond fe ddaeth Costelow nôl i'r cae ychydig funudau yn ddiweddarach.
Fe groesodd De Affrica'r llinell gais unwaith eto ond roedd corff blaenasgellwr Cymru Jac Morgan o dan y bêl i rwystro'r cais.
Ond nôl ddaeth De Affrica ac fe ddaeth trydydd cais y gêm iddyn nhw gan yr asgellwr chwith Kurt-Lee Arendse gyda'r maswr Hendrikse yn trosi.
Cymru 0-19 De Affrica ar ôl 20 munud.
Roedd Cymru yn ffodus i beidio ag ildio cais arall wrth i'r cefnwr Blair Murray amddiffyn yn ddewr i rwystro ei wrthwynebydd Aphelele Fassi dros y llinell.
Fe groesodd capten De Affrica am y 60fed tro, Siya Kolisi am gais ond roedd y bêl wedi ei tharo ymlaen yn gynharach yn y symudiad ac ni roddwyd y cais.
Doedd dim angen aros yn rhy hir i Dde Affrica gael eu pedwerydd cais ac fe groesodd y blaenasgellwr Eric Louw gyda Hendrikse yn trosi.
Cymru 0-26 De Affrica ar ôl 35 munud.
Fe gafodd y dorf gyfle i lawenhau ychydig eiliadau cyn yr hanner. Yn dilyn chwarae grymus gan flaenwyr Cymru ar llinell gais De Affrica fe ledwyd y bêl i roi cyfle i'r asgellwr Rio Dyer groesi.
Y sgôr ar yr egwyl: Cymru 5-26 De Affrica.
Fe ddechreuodd De Affrica'r ail hanner yn gryf gyda Chymru'n eilyddio tri chwaraewyr. Fe ddaeth Josh Hathaway, Eddie james a Freddie Thomas i'r cae gyda Thomas yn ennill ei gap cyntaf fel ail reng.
Roedd ymosodiadau De Affrica yn ddigyfaddawd ac ar ôl i Gymru golli cyfle o lein yn agos at llinell yr ymwelwyr fe groesodd Fassi am bumed cais i'w dîm ar ôl 54 munud. Cymru 5-31 De Affrica.
Fe ddaeth Ryan Elias i'r cae i gymryd lle bachwr a chapten Cymru Dewi Lake ar ôl awr. Bellach roedd hi'n gwestiwn o faint o bwyntiau byddai De Affrica yn sgorio.
Amddiffyn oedd gorchwyl Cymru ac nid oedd modd iddyn nhw wrthsefyll grym y Springboks wrth i'w eilydd Gerhard Steenekamp groesi am eu chweched cais gyda Hendrikse yn trosi. Cymru 5-38 De Affrica.
Fe sgoriodd Hendrikse seithfed cais De Affrica ar ôl 75 munud gan drosi hefyd. Cymru 5-45 De Affrica.
Fe sgoriodd James Botham gais cysur i Gymru yn yr eiliadau olaf.
Ai dyma’r hoelen olaf yn arch Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru?
Y sgôr terfynol Cymru 12- 45 De Affrica.