Newyddion S4C

Perchnogion newydd CPD Abertawe yn addo ‘cyfnod newydd’

23/11/2024
Abertawe v Caerdydd

Mae cyfnod wyth mlynedd Jason Levien a Steve Kaplan wrth y llyw dros dîm pêl-droed Abertawe wedi dod i ben ar ôl iddyn nhw werthu eu cyfranddaliadau i Andy Coleman, ei gyd-gyfranddalwyr Brett Cravatt a Nigel Morris, a’r dyn busnes Jason Cohen.

Mae Levien a Kaplan – ynghyd â’u cyd-Americanwyr Jake Silverstein a phartneriaid eraill – wedi gwerthu eu cyfran o 74.95% yn Abertawe, gyda’r cadeirydd Coleman yn disgrifio’r newid perchnogaeth fel dechrau “cyfnod newydd” i glwb y Bencampwriaeth.

Daeth Andy Coleman yn gadeirydd Abertawe ym mis Mai 2023, pan brynodd yr hyn a ddisgrifiwyd fel "rhan sylweddol" yn y clwb.

Dywedodd Coleman ei fod ef a’i gyd-Americanwyr Cravatt a Cohen bellach yn rheoli 77.4% o gyfranddaliadau Abertawe, gyda Briton Morris yn dal cyfran o 14%.

Ychwanegodd Coleman bod y cyfranddaliadau sy'n weddill yn eiddo i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe - sydd â chyfran wedi'i diogelu o 5% - yn ogystal â mân gyfranddalwyr gan gynnwys y cyn-gyfarwyddwyr Martin Morgan a Brian Katzen. Mae cyfranddaliad yr Ymddiriedolaeth bellach yn 7.5%.

Bydd Cohen, sy’n bartner busnes i Cravatt, yn ymuno â bwrdd Abertawe, ynghyd â thri buddsoddwr Americanaidd arall, Tyler Morse, George Popstefanov, a Chris Sznewajs.

Image
Andy Coleman
Mae Andy Coleman wedi addo buddsoddiad newydd yn y clwb

Mae Coleman yn dweud y bydd y newid perchnogaeth "hynod" yn golygu y bydd mwy na £20m yn dod i mewn i goffrau’r clwb.

"Mae'r partneriaid newydd sydd gen i y tu mewn i Abertawe yr un mor ymroddedig ag ydw i i helpu bob dydd i fynd â'r clwb hwn lle mae'n haeddu bod," meddai Coleman.

“Gobeithio bod gennym ni’r gallu i estyn allan ar draws yr eil at ein cefnogwyr ac i ailadeiladu eu hymddiriedaeth a chydweithio ar y dechrau newydd yma.

“Rwyf am un yn hynod gyffrous am yr hyn sydd gan y dyfodol i ni. Alla i ddim aros i weld ble rydyn ni'n mynd."

Prynodd Levien a Kaplan gyfran reoli yn Abertawe mewn cytundeb a oedd yn gosod gwerth Abertawe rhwng £100m a £110m yn 2016, er i'r clwb gwympo o'r Uwch Gynghrair dim ond dwy flynedd yn ddiweddarach.

Cafwyd awgrymiadau bod Levien, Kaplan a Silverstein – a fuddsoddodd yn y clwb Cymreig bedair blynedd yn ddiweddarach – wedi gwerthu eu cyfranddaliadau am swm bychan iawn, gyda’r addewid o daliadau pellach sylweddol pe bai Abertawe’n dychwelyd i’r Uwch Gynghrair.

Mae Coleman wedi gwrthod trafod telerau'r cytundeb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.