Newyddion S4C

Tro pedol gan Jeremy Clarkson ar ei sylwadau am brynu fferm i osgoi talu treth

23/11/2024
Jeremy Clarkson

Mae Jeremy Clarkson wedi gwneud tro pedol ar ei sylwadau blaenorol ynglŷn â pham y prynodd ei fferm, gan ddweud ei fod yn meddwl y byddai’n “well stori cysylltiadau cyhoeddus pe bawn yn dweud fy mod wedi ei phrynu er mwyn osgoi talu treth”.

Anwybyddodd y cyflwynydd teledu a newyddiadurwr gyngor meddygon trwy ymuno â miloedd o ffermwyr yn Llundain ddydd Mawrth i brotestio yn erbyn newidiadau i dreth etifeddiaeth amaethyddol.

Ysgrifennodd y dyn 64 oed, sy’n ymddangos ar Clarkson’s Farm ar Prime Video, sy’n dogfennu heriau ffermio ar ei dir yn Sir Rhydychen, mewn neges ar wefan Top Gear yn 2010: “Rwyf wedi prynu fferm. Mae yna lawer o resymau synhwyrol am hyn: Mae tir yn fuddsoddiad gwell nag y gall unrhyw fanc ei gynnig. Nid yw'r llywodraeth yn cael dim o'm harian pan fyddaf yn marw. A dim ond codi y gall pris y bwyd rwy’n ei dyfu.”

Dywedodd Clarkson hefyd wrth The Times yn 2021 mai osgoi treth etifeddiant oedd “y peth hollbwysig” yn ei benderfyniad i brynu tir.

Wrth fynd i’r afael â’r honiad mewn cyfweliad newydd gyda The Times, dywedodd cyn-gyflwynydd Top Gear: “Wnes i erioed gyfaddef pam wnes i ei brynu mewn gwirionedd.”

Ychwanegodd y cyflwyddnydd, sy'n hoff o saethu adar: “Roeddwn i eisiau saethu - roeddwn i'n naïf iawn. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n well stori cysylltiadau cyhoeddus pe bawn i'n dweud fy mod wedi ei brynu er mwyn osgoi talu treth.”

Roedd Clarkson ymhlith y miloedd aeth ar y strydoedd yr wythnos hon i brotestio dros y newidiadau yn y Gyllideb ddiweddar i osod treth etifeddiant ar ffermydd gwerth dros £1 miliwn ac fe anerchodd y torfeydd yn yr orymdaith yng nghanol Llundain.

Dywedodd wrth y papur newydd nad yw’n hapus i fod yn wyneb cyhoeddus i’r mudiad, gan ddweud: “Fe ddylai gael ei arwain gan ffermwyr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.