Newyddion S4C

Ynys Môn: Cais i newid hen orsaf reilffordd yn llety gwyliau

23/11/2024
Pentre Berw

Gallai gorsaf reilffordd hanesyddol ar Ynys Môn ddod yn llety gwyliau os caiff cynlluniau eu cymeradwyo.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi derbyn cais cynllunio llawn i newid defnydd yr hen orsaf ym Mhentre Berw.

Mae’r adeilad yn dal yn gyfan gyda nifer o nodweddion gwreiddiol yn bodoli.

Mae'r cynigion yn galw am drawsnewid adeilad yr hen orsaf reilffordd yn ddau lety gwyliau hunangynhwysol, ynghyd â chodi clwydfan ystlumod ar wahân.

Mae’r ymgeisydd wedi’i restru fel yr Addams Family Estate Limited, trwy’r asiant Gerwyn Jones, o Gaerwen, ar gyfer Outline Building Solutions Cyf.

Mae'r safle datblygu i'r gogledd ddwyrain o Gaerwen, rhyw ddwy filltir o Langefni.

Fe ddaeth lein Amlwch oedd yn cludo teithwyr i ben yn y 1960 ac nid oedd angen yr adeilad mwyach.

Roedd y trac 17.5 milltir yn cysylltu porthladd Amlwch â llinellau arfordir gogledd Cymru yn Gaerwen.

Ar hyn o bryd mae grŵp o wirfoddolwyr yn gweithio i ailagor y rheilffordd.

Disgrifir adeilad gorsaf Pentre Berw fel adeilad llinol, unllawr traddodiadol ac mewn “cyflwr strwythurol da.”

Mae’r cais yn nodi: “Mae’r cynnig ar gyfer newid defnydd adeilad gorsaf drenau segur yn ddwy uned wyliau hunangynhaliol. Gwneud defnydd da o adeilad a fyddai fel arall yn wag.”

Mae hefyd yn nodi bod arolygon ystlumod a gynhaliwyd wedi cadarnhau bod adeilad yr orsaf “yn cael ei ddefnyddio fel man clwydo dydd a nos achlysurol ar gyfer amrywiaeth o ystlumod”.

“Mae modd trosi’r adeilad yn ddwy uned gymedrol ond cyfforddus heb unrhyw estyniadau na gwaith strwythurol helaeth."

Ffynhonnell incwm

Mae’r cynigion yn datgan bod yr ymgeisydd wedi prynu’r adeilad ym mis Gorffennaf, 2024.

Mae’r cynlluniau’n nodi: ” Deallwn fod rheilffordd Amlwch wedi cau i deithwyr yng nghanol y 1960au, ond parhaodd y lein ar agor tan y 1990au ar gyfer defnydd cludo nwyddau yn unig.

“Mae’n debygol felly nad yw’r adeilad wedi cael ei ddefnyddio i’w bwrpas gwreiddiol ers rhyw 60 mlynedd. Hyd y gwyddom, nid yw’r adeilad wedi’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall yn y cyfamser.

“Mae’r arolwg strwythurol yn dod i’r casgliad bod hen orsaf drenau Pentre Berw mewn cyflwr da yn strwythurol ac nad oes angen unrhyw waith atgyweirio strwythurol mawr neu ormodol i drosi’r adeilad yn ofod cyfanheddol.”

Mae’r cynnig yn nodi hefyd, er nad yw wedi’i restru, “mae’r ymgeisydd yn gwerthfawrogi bod yr adeilad yn sicr yn rhan bwysig o dreftadaeth Gymreig draddodiadol, ac felly’n awyddus i gadw cymeriad a nodweddion yr adeilad cyn belled ag y bo modd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.