Newyddion S4C

Côt newydd o baent i furlun o Gareth Bale yng Nghaerdydd

23/11/2024
Bale

Mae murlun o Gareth Bale yng Nghaerdydd wedi cael ei adnewyddu ar ôl ymgyrch lwyddiannus i godi arian i gwblhau'r gwaith.

Yr artist Bradley Woods sydd wedi rhoi côt newydd o baent i'r murlun o gyn gapten Cymru. 

Roedd Bethan Richards, sy'n byw yn y brifddinas, wedi dechrau tudalen JustGiving i godi'r £500 ar gyfer y gwaith yn gynharach eleni.  

O fewn wyth awr, cafodd y targed ei gyrraedd. 

Bellach mae'r murlun yn yr Eglwys Newydd yn y brifddinas yn edrych fel newydd.

Image
Bethan a Bale
Bethan Richards a'r murlun cyn iddo gael ei adnewyddu.

Wrth drafod y gwaith adnewyddu ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Bethan Richards: "Doedd o (yr artist) byth yn meddwl y byddai’r darn yn dal i fod yno wyth mlynedd yn ddiweddarach, a gan ei fod yn dipyn o berffeithydd dywedodd ei fod wedi mwynhau cywiro rhai darnau bach yr eildro.

"Gweithiodd arno dros dri diwrnod, treuliodd brynhawn yn paratoi, crafu'n ôl a chael gwared ar lwydni oddi ar yr wyneb. Wedi'i ddilyn gan ddwy sesiwn o chwistrellu.

"Rwy'n meddwl ei fod wedi gwneud gwaith anhygoel, mae ganddo liwiau ychwanegol o ddyfnder hyfryd ac mae'n dod oddi ar y wal. 

"Gallaf weld y Bale ifanc o'r llun. Diolch o galon Brad. Gan bawb yn yr Eglwys Newydd. Mae’n mynd i ddod â mwy o lawenydd a balchder am wyth mlynedd arall nawr."

Cafodd y murlun ei gomisiynu gan BBC Cymru ar gyfer rhaglen arbennig BBC Wales Today ym mis Hydref 2015.

Roedd perfformiadau Cymru yn Euro 2016 yn achos dathliadau mawr ym mhob rhan o Gymru. 

Er nad oedd llawer yn meddwl y byddai Cymru yn cyrraedd tu hwnt i'r grwpiau fe aethon nhw ymlaen i ennill y grŵp, gan orffen uwchben Lloegr.

Yna daeth buddugoliaethau yn erbyn Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg, oedd ar frig rhestr detholion FIFA ar y pryd. Colli fu hanes Cymru yn y rownd gynderfynol i enillwyr y gystadleuaeth, Portiwgal.

Llun: Bethan Richards

Image


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.