Y cyn-ddirprwy Brif Weinidog John Prescott wedi marw yn 86 oed
Y cyn-ddirprwy Brif Weinidog John Prescott wedi marw yn 86 oed
"This is Hull's finest export!"
Gŵr o'r gogledd ac o'r dosbarth gwaith oedd John Prescott.
Llafurwr o'i gorun i'w sawdl.
Dyma fo'n parhau i ymgyrchu chwe mlynedd yn ôl ar ôl gadael y llwyfan gwleidyddol.
"Oedd John Prescott yn authentic a dyna beth oedd yn bwysig.
"Roedd e'n gallu uniaethu gyda phobl oedd yn teimlo yn eu gwaed bod nhw eisiau bod yn perthyn i'r Blaid Lafur.
"Oedd e'n cynrychioli llais y gweithwyr."
Cafodd John Prescott ei eni ym Mhrestatyn ym 1938.
Er gadael Cymru yn bedair oed, roedd wastad yn ystyried ei hun yn Gymro.
Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Hull East ym 1970.
Yn fuan, roedd e'n cael ei adnabod fel gwleidydd cwerylgar.
Bu'n ymgeisydd yn y ras i arwain Llafur yn 1994 ond collodd i Tony Blair a chael ei benodi'n ddirprwy arweinydd.
Wedi buddugoliaeth Llafur yn etholiad 1997 daeth yn Ddirprwy Brif Weinidog.
Yn 2006, bu yn y penawdau am y rhesymau anghywir ar ôl cyfaddef cael perthynas efo'i ysgrifenyddes tra'n briod.
Wnaeth o ddim sefyll yn etholiad 2010.
Er dweud na fydde fo derbyniodd gynnig i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi.
Er ei ddylanwad...
"You can see I can't find them."
..doedd o ddim wastad y mwyaf slic!
"I knew this would happen."
Weithiau, roedd o'n gallu rhoi ei droed ynddi.
"Can we do that again? I made that crap."
"Sorry, we're live at the moment. Will you agree to do that?"
Dyma un o'r digwyddiadau mwya cofiadwy.
Ymgyrch etholiad 2001 yn Rhyl pan roiodd ddwrn i ffermwr am daflu wy arno.
Mynnu wnaeth Prescott ei fod wedi amddiffyn ei hun.
"Roedd Prescott yn gwthio am ddatganoli i Loegr.
"Roedd o'n gry' iawn o blaid seneddau rhanbarthol yn Lloegr.
"Ddaru o orfodi'r blaid yng Nghymru i ddeud os ni'n wneud hyn yn Lloegr a'r Alban, rhaid neud o yng Nghymru.
"O ran stori datganoli, mae'n droednodyn diddorol.
"Oedd Prescott yn allweddol i hynna i gyd."
Bu'r berthynas yn bigog rhwng Tony Blair a'i Ganghellor, Gordon Brown.
Yn aml, bu'n rhaid i Prescott gadw'r ddysgl yn wastad yn y berthynas.
"He was an incredibly direct communicator.
"Even if the syntax never made sense the sentiment was very powerful.
"We had our disagreements. but he was loyal, committed and an enormous help.
"He had a fantastic gut instinct about politics."
"O'n i'n gweithio yma gyda Rhodri felly'n gweithio trwy'r cyfnod hynny o Blair and Brown.
"John Prescott oedd angor y rhan o'r blaid oedd yn fwy fel Cymru na'r New Labour project."
Bu John Prescott yn bont rhwng yr hen Lafur a'r newydd yn un o gewri Llywodraeth Tony Blair roedd ganddo'r gallu unigryw i gysylltu â phobl.