Iechyd meddwl: 'Gallai pethau wedi bod yn wahanol gyda'r help iawn ynghynt'
Iechyd meddwl: 'Gallai pethau wedi bod yn wahanol gyda'r help iawn ynghynt'
"O'n i'n edrych mor sâl a'r wên mor ffug."
Mae Lara Rebecca yn 24 oed ac yn byw yng Nghaerdydd.
"Pryd o'n i'n ifanc, wnes i ddioddef gyda phryder a panic attacks.
"Wnaeth y rheiny datblygu ac o'n i'n isel ac yn isolatio'n hunan.
"I ymdopi, wnes i ddechrau dioddef gydag anhwylder bwyta."
"Pa mor anodd oedd y cyfnod yna i ti?"
"Oedd hi'n rili anodd achos pryd o'n i'n ifanc, o'n i'n really bubbly yn hoffi karate a mynd i'r gerddorfa.
"Wedyn, wnes i disintegratio a colli lot o hyder a colli Lara."
Mae Lara'n teimlo y byddai pethau 'di bod yn wahanol petai hi wedi cael yr help iawn ynghynt.
"Oedd e'n anodd achos ar y dechrau, o'n i eisiau dioddef ar ben fy hun.
"Pryd wnaeth y sefyllfa gwaethygu, oedd e'n anodd cael help achos o'n i ddim yn cael fy ystyried yn ddigon sâl i gael y support
oedd rhaid i fi gael.
"Os oedden nhw wedi helpu yn gynharach, bydde fe wedi helpu achos wnaethon aros nes i'r sefyllfa waethygu."
Mae'r adroddiad ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn yn nodi bod gormod o bobl ifanc Cymru'n cael profiadau tebyg i Lara.
Maen nhw'n codi pryderon am ddiffyg cyllid a diffyg cyfathrebu rhwng gwasanaethau.
"Testun pryder yw bod hanner y rhai ifanc wnaeth gysylltu â ni ddim yn gwybod le i droi i gael cymorth gyda iechyd meddwl.
"Yn yr adroddiad, ni tynnu sylw at y ffactorau a'r risgiau o gwmpas hyn.
"Ni'n galw am fwy o waith i sicrhau bod pob un ifanc yng Nghymru yn medru derbyn gofal sy'n amserol ac yn addas i'w hanghenion."
"Bore da, bobl."
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at rai arferion da mewn ysgolion.
Yn Ysgol Llangynwyd yn Sir Pen-y-bont mae lles ac iechyd meddwl disgyblion yn cael lle blaenllaw.
"Ni'n gallu mynd i Lannerch i siarad â'r bobl yna.
"Chi'n gallu cerdded mewn a siarad am beth sy'n digwydd yn dy fywyd."
"Pob dydd Llun, ni'n cael rhywbeth o'r enw Lles Llun.
"Bydd ein tiwtor yn gofyn i ni dynnu'r cardiau mas.
"Gwyrdd yw bod chi'n iawn, oren yw os chi ddim yn siŵr a coch os chi ddim yn iawn."
Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod nhw wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei angen.
Mae gwelliannau wedi bod ond bod lle i wella eto.
"Hwnna oedd anorecsia.
"Doedd hwnna ddim yn Lara ond yn ferch rili anhapus.
"Mae pethau'n gwella.
"Weithiau mae 'na brydau tywyll ond gydag amser, cariad, y teulu, gyda help, gyda accept the support a bod yn vulnerable, mae'n gwella."
Mae Lara yn edrych i'r dyfodol yn bositif nawr ond yn gobeithio trwy rannu ei stori, bydd hi'n helpu eraill.