Newyddion S4C

'Pryderon' nad yw plant ifanc yn gallu 'sgwrsio a darllen erbyn cyrraedd oedran ysgol'

Newyddion S4C 22/11/2024
Plant ysgol gynradd

Mae seicolegwyr wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C eu bod yn poeni fod rhai plant erbyn hyn yn cyrraedd oedran ysgol yn methu a gwneud pethau sylfaenol fel darllen a sgwrsio. 

Er eu bod yn cydnabod fod pwysau ar rieni, ddylai hynny ddim rhwystro’r gefnogaeth ma’ plant ei angen yn ôl yr arbenigwyr.

Fe ddaw hyn wrth i ymchwil newydd ddangos bod llai o rieni yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel darllen, canu a sgwrsio gyda'u plant o oedran ifanc.

Yn ôl ymchwil newydd gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol,  mae 78% o rieni yn sgwrsio gyda’u plant o leiaf unwaith y dydd, o’i gymharu ag ychydig dros 90% bum mlynedd yn ôl.

 Mae Dr Mair Edwards sy’n seicolegydd yn dweud “fod na brobleme wedi bod yn y blynyddoedd dwetha o blant bach yn cyrraedd dosbarth derbyn a ddim yn gallu gwneud y pethe sylfaenol yn iawn.” 

Mae’n dweud fod rhai “yn sicr heb ddod ar draws llythrenne a rhife a hynny’n golygu bod llawer mwy o waith i’w wneud i’w cael nhw yn barod at addysg.”

Image
Dr Mair Edwards
Dr Mair Edwards

Er yn cydnabod y pwysau ar rieni, ma’ Mair Edwards yn dweud “fedrith hynny ddim bod ar draul gofalu bod plant bach yn cael y gefnogaeth ma’n nhw ei angen.” 

'Pryder'

Mae’r ymchwil newydd hefyd yn nodi mai 56% o rieni sy’n chwarae gyda’u plant yn ddyddiol, sy’n ostyngiad o 20% ac mi ddywedodd ychydig dros hanner eu bod yn darllen bob dydd, sydd 16% yn llai.

Ond mae Manon Jones sy’n Athro mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor yn dweud bod heriau wedi wynebu rhieni dros gyfnod y gwaith ymchwil.

“Ma’r pandemig wedi digwydd yn y cyfnod yna a hefyd ’dan ni wedi bod yn siarad efo athrawon mewn ysgolion ac ma’n nhw’n riportio bod nifer o blant yn y dosbarth derbyn a nhwythau methu siarad yn glir ac yn eglur a gwneud brawddegau cyflawn sy’n peri pryder mawr iddyn nhw hefyd.”

“Ma’ ‘na broblem efo costau byw felly mae’n anodd iawn i rieni dalu am ystod eang o bethau gwahanol. Ma’ llyfrgelloedd yn darparu llyfrau a theganau ond dwi’n meddwl bod angen newid meddylfryd ac addysgu rhieni pam fod hyn yn bwysig ar gyfer eu plant nhw. 

Image
Meithrinfa
78% o rieni sydd yn sgwrsio gyda’u plant o leiaf unwaith y dydd, o’i gymharu ag ychydig dros 90% bum mlynedd yn ôl

"Mae yna sawl cynllun ar y gweill gan y Llywodraeth ar hyn o bryd ond yn sicr ma’ angen cynyddu'r nifer sydd ar gael a mynd at y llefydd difreintiedig.”

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ariannu ystod o brosiectau llythrennedd i gefnogi ac annog teuluoedd i fwynhau darllen gyda'i gilydd, gan gynnwys sesiynau Dechrau Da sy'n darparu llyfrau, adnoddau a gweithgareddau i deuluoedd.

I rieni sy’n mynd i sesiwn stori a chân gyda’u plant yng Nghaerdydd, mae cyfleoedd fel hyn yn bwysig i fagu’r sgiliau sydd eu hangen.

Mi ddywedodd un rhiant fod y sesiynau am ddim ac o fewn cerdded sy’n golygu eu bod yn lwcus o le maen nhw’n byw.

Yn ôl rhiant arall, ma’r sesiynau yn gwella sgiliau cymdeithasol plant ac yn rhoi cyfle tu allan i’r cartref iddyn nhw wneud pethau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.