Teyrngedau i gricedwr, 44, fu farw wedi gêm
18/07/2021
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gricedwr o’r Barri fu farw ar ôl gêm.
Roedd Maqsood Anwar, 44 oed, yn chwarae i’r Sully Centurions ar eu cae chwarae ddydd Sadwrn pan aeth yn sâl.
Cafodd ei ddisgrifio fel “gŵr bonheddig” mewn teyrngedau gan ffrindiau a theulu.
Yn ôl Wales Online, y gred yw bod Mr Anwar wedi dioddef ataliad ar y galon wrth chwarae ar un o ddiwrnodiau cynhesaf y flwyddyn hyd yma.
Mae cricedwyr wedi bod yn galw am fwy o ddiffibrilwyr ar feysydd chwarae o ganlyniad i farwolaeth Mr Anwar.
Darllenwch y stori’n llawn yma.