Newyddion S4C

Teyrnged teulu i ferch 14 oed fu farw ar ôl argyfwng meddygol mewn clwb rygbi

Seren Jenkins

Mae teulu merch 14 oed fu farw ar ôl argyfwng meddygol mewn clwb rygbi wedi rhoi teyrnged iddi.

Bu farw Seren Jenkins o Dŷ-croes, Rhydaman ddydd Gwener yr wythnos diwethaf yng nghlwb rygbi Yr Aman.

Dywedodd ei theulu bod eu “calonnau wedi torri wrth golli merch a chwaer fawr a bach mor gariadus”.

“Bu i Seren fyw ei bywyd byr i’r eithaf ac roedd yn artist, chwaraewr rygbi ac wrth ei bodd ar y cyfryngau cymdeithasol,” medden nhw.

“Roedd Seren yn cael ei charu gan bawb oedd yn ei hadnabod a bydd yn cael ei chofio hefyd am ei synnwyr digrifwch.

“Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r gwasanaethau brys a ddaeth i’r fan a’r lle, a phawb sydd wedi rhoi arian i’r dudalen GoFundMe.

“Bydd yr elw yn debygol o gael ei roi i wahanol wasanaethau asthma, Ambiwlans Awyr Cymru, a chofeb bosibl i ffrindiau gael cofio amdani.”

Ychwanegodd ei theulu: “Hoffem hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bobl am eu geiriau caredig a’u cefnogaeth ar yr adeg erchyll hon, ond hoffem nawr ofyn am yr amser hwn i alaru yn breifat.”

Dywedodd Clwb Rygbi Yr Aman mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn yr wythnos diwethaf fod y clwb ar gau a'r holl gemau wedi eu gohirio "yn sgil amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld ac fel arwydd o barch".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.