Dau sy'n rhedeg busnes golchi ceir yng Nghaerffili yn cyfaddef smyglo pobol i'r DU o Ewrop
Mae dau ddyn wedi pledio'n euog i weithredu cynllwyn i smyglo mewnfudwyr yn anghyfreithlon i'r DU o Ewrop, gan wneud hynny o'u busnes golchi ceir mewn tref yn ne Cymru.
Roedd yn ymddangos bod Dilshad Shamo, 41, ac Ali Khdir, 40, yn berchnogion llwyddiannus ar y busnes Fast Track Hand Car Wash yng Nghaerffili.
Ond y tu ôl i'r llenni, roedd y pâr yn trefnu i bobol deithio o Irac, Iran a Syria trwy Dwrci, Belarus, Moldofa a Bosnia yn anghyfreithlon.
Roedden nhw'n cynnig tri gwasanaeth gwahanol i ymfudwyr: ar droed neu lori; ar long neu gwch; neu ar awyren.
Digwyddodd y troseddau rhwng Hydref 2022 ac Ebrill 2023.
Cafodd y dynion eu harestio ym mis Ebrill 2023 gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).
Roedd y ddau wedi pledio'n ddieuog yn wreiddiol i gyhuddiadau o gynllwynio i dorri rheolau mewnfudo yn yr Eidal, Romania, Croatia, a'r Almaen, wrth ddod â phobol i mewn i wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd.
Ond plediodd y ddau yn euog i'r pum cyhuddiad yn eu herbyn yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.
'Bywydau dwbl'
Dywedodd Derek Evans, rheolwr cangen yr NCA, bod Ali Khdir a Dilshad Shamo wedi "byw bywydau dwbl".
"Ar yr wyneb roedd yn ymddangos fel eu bod yn gweithredu busnes golchi ceir llwyddiannus, ond mewn gwirionedd roedden nhw' n rhan o grŵp smyglo pobl oedd yn symud ymfudwyr ar draws Ewrop, gan dderbyn miloedd am wneud hynny," meddai.
"Roedd ein tystiolaeth yn dangos fod yr ymfudwyr oedd yn symud o dan Khdir a Shamo wedi cyrraedd gwledydd yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym yn asesu bod eu teithiau wedi neu'n mynd i fynd â nhw i mewn i'r DU."
Yn ystod yr achos, dywedodd yr erlynydd Sarah Gaunt wrth aelodau'r rheithgor fod tystiolaeth o WhatsApp, gan gynnwys negeseuon llais rhwng Shamo a Khdir a phobol sydd wedi'u lleoli yn Irac, Twrci ac Ewrop yn ceisio smyglo pobl ar draws yr Undeb Ewropeaidd.
Clywodd y llys fod y rhan fwyaf o’r bobol oedd wedi cael eu smyglo yn dod o Irac, Iran a Syria, a’u bod wedi talu miloedd o bunnoedd.
Roedd Shamo a Khdir wedi hysbysebu eu gwasanaethau i bobol oedd eisiau ymfudo drwy gyhoeddi fideos gan bobol oedd eisoes wedi teithio.
Mewn un fideo, mae teulu sy’n teithio ar awyren yn dweud: “Rydyn ni’n hapus iawn… dyma’r fisa, bydded i Dduw ei fendithio, rydyn ni’n hapus iawn.”
Mae fideo arall yn dangos dyn sy'n teithio mewn lori yn dweud wrth y camera: “Cytundeb llwybr lori... Yma mae gennym ddynion, merched a phlant. Diolch i Dduw roedd y llwybr yn hawdd ac yn dda.”
Bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ddydd Llun 25 Tachwedd cyn iddyn nhw gael eu dedfrydu.