Newyddion S4C

Pont y Borth: Oedi i'r gwaith atgyweirio 'nes diwedd y flwyddyn nesaf'

pont menai

Fe fydd oedi i'r gwaith o atgyweirio Pont y Borth nes diwedd y flwyddyn nesaf yn “tarfu ar drigolion a busnesau lleol”.

Dyna ymateb yr Aelod o Senedd Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, i’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru a UK Highways A55 Ltd fod y rhaglen gwaith i atgyweirio’r bont rhwng Môn a'r tir mawr yn cael ei ymestyn.

Ni fydd y gwaith yn cael ei gwblhau tan nes fis Rhagfyr 2025, yn ôl Llywodraeth Cymru, a hynny ar ôl iddyn nhw osod dyddiad gorffen o Awst 2025 yn wreiddiol.

Dechreuodd y rhaglen yn ôl ym mis Medi 2023 ar ôl i'r bont gau am bedwar mis ym mis Hydref 2022 ar ôl i bryderon diogelwch difrifol gael eu codi yn ystod dadansoddiad technegol.

Roedd disgwyl i'r rhaglen bara dwy flynedd, ond mae'r datblygiad diweddar yma yn golygu y bydd y prosiect rŵan yn cymryd o leiaf 27 mis i'w gwblhau.

Image
Rhun
Rhun ap Iorwerth

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw hyd amserlen y gwaith wedi newid, a'u bod nhw wedi penderfynu cyflwyno saib ar y gwaith dros gyfnod y Nadolig i helpu busnesau lleol.

Ond dywedodd Rhun ap Iorwerth AS ei fod yn teimlo fel bod pobl wedi eu “camarwain” yn sgil y newid.

"Rwy'n siomedig o glywed bod y rhaglen waith i atgyweirio Pont y Borth bellach wedi'i hymestyn nes diwedd 2025, bedwar mis yn hwyrach na'r disgwyl," meddai.

“Er bod y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y bont yn ddiogel ac yn wydn yn bwysig, mae'n amlwg ei bod yn effeithio ar drigolion a busnesau lleol, a rŵan bydd y tarfu yn cael ei ymestyn y tu hwnt i'r hyn a ddywedwyd wrthynt yn wreiddiol.

“Mae darganfod nad yw hyn yn wir a fydd y prosiect rŵan yn cymryd tan fis Rhagfyr 2025 i'w gwblhau yn teimlo fel pe baem wedi cael ein camarwain.”

Mesurau traffig

Cadarnhawyd hefyd, pan fydd y rhaglen waith yn ailddechrau ym mis Mawrth, y bydd rheolaeth traffig ar y bont drwy’r amser, gan gynnwys penwythnosau.  

Hyd yma, dim ond yn ystod yr wythnos yr oedd mesurau i reoli traffig yn eu lle. 

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd y byddai'r bont yn ailagor dros gyfnod y gaeaf eleni, ar ôl cwblhau'r gwaith o amnewid hongwyr ar y bont, ac y byddai'r holl gyfyngiadau rheoli traffig a phwysau yn cael eu codi.  

“Rydym hefyd yn cael gwybod rŵan y bydd mesurau rheoli traffig yn fwy cyfyngol yn ystod camau olaf y gwaith, gyda goleuadau yn eu lle 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos," meddai Rhun ap Iorwerth.

"Bydd hyn yn ychwanegu'n sylweddol at y tarfu ar bobl leol.

"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn symud yn gyflym ar gynlluniau i wneud Pont Britannia mor wydn â phosibl, yn enwedig dros fisoedd yr haf blwyddyn nesaf.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Nid yw hyd y rhaglen waith wedi newid.

"Rydym wedi gwrando ar randdeiliaid a’r cymunedau lleol ac rydym yn rhoi saib ar y Gwaith ar gychwyn ail gymal er mwyn ail-agor y bont yn llawn dros y gaeaf, gan gynnwys cyfnod y Nadolig, er mwyn helpu busnesau lleol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.