Newyddion S4C

Achub tad a mab o fynydd yn Eryri ar ôl camgymeriad wrth ddilyn map ar Strava

Tîm Achub Ogwen

Bu'n rhaid achub tad a mab o un o fynyddoedd Eryri mewn tywydd oer iawn ar ôl iddyn nhw wneud camgymeriad wrth geisio dilyn map ar ap Strava.

Cafodd Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw i'r Glyder Fach ddydd Llun wedi adroddiad bod dau gerddwr wedi mynd ar goll wrth geisio esgyn y mynydd.

Roedd y cerddwyr, oedd yn dad a mab, wedi dringo Glyder Fawr drwy Bwlch Tryfan ond wedi gwneud camgymeriad wrth geisio dilyn eu llwybr blaenorol, ac wedi  dilyn y llwybr anghywir drwy Nant Peris.

Yn ôl y sefydliad achub mynydd, roedd y ddau wedi ceisio dilyn llwybr ar ap Strava, ond wedi dilyn 'map gwres' sy'n dangos llwybrau poblogaidd mewn camgymeriad.

Image
Ogwen
Roedd gwirfoddolwr tîm achub Ogwen wedi tywys y cerddwyr i lawr gyda rhaffau

O ganlyniad, roedden nhw wedi ceisio esgyn i lawr tir serth a thechnegol ar Glyder Fach, cyn stopio a galw am gymorth.

Roedd yna eira ar y mynydd, ac wrth i’r amodau waethygu, fe blymiodd y tymheredd i lawr at finws 9 gradd.

Cafodd tri aelod o’r tîm achub eu hanfon i fyny llwybr y Mwynwyr, cyn esgyn i gyfeiriad y cerddwyr.

Ar ôl darparu dillad cynnes a thorchau newydd, cafodd y ddau eu tywys i lawr i ddiogelwch o gyfeiriad Bochlwyd gyda rhaffau, gyda chymorth dau achubwr ychwanegol.

Ar ôl 10 awr a 52 munud, roedd gwirfoddolwyr y tîm achub wedi llwyddo i gyrraedd yn ôl i’w pencadlys erbyn 04.00 y bore canlynol.

Lluniau: Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.