Newyddion S4C

Cymru i herio'r Springboks gyda dyfodol Warren Gatland yn y fantol

Warren Gatland (huw Evans)

Mae Cymru yn wynebu pencampwyr y byd, De Affrica, nos Sadwrn, gan obeithio osgoi blwyddyn gyfan o golli pob un o’u gemau rygbi rhyngwladol.

Mae Cymru wedi colli 11 gêm o'r bron, gan gynnwys pob un yn ystod 2024. Ac mae’r rhediad yn edrych yn hynod annhebygol o gael ei dorri yn erbyn y Springboks - tîm sydd wedi ennill Cwpan y Byd ddwywaith yn olynol.

Mae’r Hydref wedi bod yn un anodd dros ben i dîm Warren Gatland hyd yma ar ôl colli 19-24 yn erbyn Ffiji yng Nghaerdydd bythefnos yn ôl cyn derbyn crasfa 20-52 yn erbyn Awstralia wythnos ddiwethaf.

Gyda phwysau aruthrol ar ei ysgwyddau, mae sawl un yn credu bod yr amser bron ar ben i Gatland fel hyfforddwr Cymru

Image
Cymru v Awstralia
Fe wnaeth y Cymry golli eu 11eg gêm ryngwladol yn olynol y penwythnos diwethaf, yn erbyn Awstralia (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Ond mewn cynhadledd i’r wasg yr wythnos hon, roedd yr is hyfforddwr Rob Howley yn mynnu mai’r gŵr o Seland Newydd yw’r “hyfforddwr gorau yn y byd”.

“Mae Warren Gatland yn hyfforddwr sydd â pharch enfawr ac mae wedi hyfforddi ers blynyddoedd. Mae ei waddol gyda gwahanol dimau yn un llwyddiannus.

“Ar y funud, ry’n ni mewn cyfnod ble rydan ni’n colli a cholli a cholli. Ond ryw ddiwrnod, fe fyddwn ni’n ennill a dwi’n gobeithio mai ar ddydd Sadwrn fydd hynny.

“Mae’n deall rygbi a dw i’n credu fod gan Gymru'r hyfforddwr gorau yn y byd i gael ni allan o’r sefyllfa yma.”

'Y ras ar ben' i Gatland?

Anghytuno mae sylwebydd S4C, cyn-gapten Cymru, Gwyn Jones.

“Dw i’n siŵr ei fod wedi rhoi popeth, ond mae’r ras ar ben iddo,” meddai.

“Mae’n anodd gweld unrhyw ffordd y gallai Gymru ennill yn y gêm yma. Mae colli’r gêm yn ymddangos yn anochel. Y gobaith yw y gallwn ni osgoi gweld rygbi yng Nghymru golli ei hunan barch a’i hurddas.

Image
GJ a GC
'Mae'r ras ar ben' i Gatland, meddai sylwebydd S4C, Gwyn Jones (chwith)

“Does gen i ddim amheuaeth y byddai’r chwaraewyr yn rhoi eu gorau. Fe fydd cefnogwyr yn ymateb os allan nhw weld yr ymdrech a’r ymrwymiad.

“Mae’r gêm yma yn teimlo fel ein bod ni’n dechrau gweld ffarwel hir Warren Gatland.”

Mae Gatland wedi gwneud pedwar newid i’w dîm i wynebu’r Springboks, gyda Blair Murray yn cymryd lle’r cefnwr Cameron Winnett, a Rio Dyer yn ymddangos ar yr asgell.

Bydd Sam Costelow yn cychwyn yng nghrys rhif 10, gyda Christ Tshiunza a Taine Plumtree yn y pac. Fe allai Freddie Thomas wneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru pe bai’n dod oddi ar y fainc.

Mae’r Springboks wedi cynnwys 16 chwaraewr sydd wedi ennill Cwpan y Byd yn eu carfan o 23.

Bydd modd gwylio Cymru v De Affrica am 17.00 ar S4C, gyda’r gic gyntaf am 17.40.

Prif lun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.