Newyddion S4C

Mam yn pledio'n euog i ladd ei mab saith oed yn Sir Benfro

22/11/2024
Heddlu Hwlffordd

Mae menyw wedi cyfaddef ei bod hi wedi lladd ei mab saith oed yn Sir Benfro ddechrau'r flwyddyn. 

Bu farw Louis Linse yn Hwlffordd ar 10 Ionawr. 

Fe blediodd Papaipit Linse yn euog i ddynladdiad mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener. 

Fe gafodd y cyhuddiad ei dderbyn gan Caroline Rees KC ar ran yr erlyniad.

Bydd Linse yn cael ei dedfrydu ar 13 Rhagfyr. 

Dywedodd Ms Rees fod yr erlyniad wedi adolygu'r achos yn sgil y pledion a'r adroddiad seiciatrig.

"Byddwn yn derbyn y ple o ddynladdiad gan ein bod ni ar ddeall fod hyn yn ymwneud â chyfrifoldeb lleiedig," meddai.

"Ni fydd angen achos llys yn yr achos hwn."

Clywodd y llys fod Linse yn y ddalfa yng Nghlinig Caswell, uned iechyd meddwl.

Dywedodd y barnwr Paul Thomas KC: "Mae'n achos sensitif a thrasig. 

"Fe fyddaf yn eich dedfrydu chi ar 13 Rhagfyr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.