Talu biliau yn anodd wrth i chwyddiant godi
Talu biliau yn anodd wrth i chwyddiant godi
Rhag ofn bod chi heb sylwi, mae hi 'di oeri.
"Mae'n oer, dydy?"
"Mae hi'n oer!"
Mae ôl y tywydd oer yn ymestyn ymhellach na'r mynyddoedd. Gyda hyn daw'r angen i gadw'n gynnes a chynhesu tai.
Wrth i filiau godi eto, mae nifer ym Methesda yn teimlo'r wasgfa.
"Llysiau a ffrwythau dw i'n meddwl sydd 'di mynd yn rili ddrud."
"Bob dim ti angen i healthier diet. Mae'r wraig a'r plant isio lot o bres ar gas a electric yn y gaeaf. Mae bob dim yn mynd i fyny.
"Dw i'n gweld bod y gyfraith, 'sdim ots gyda nhw am bobl leol. 'Sna'm byd yn dod lawr - ond eira!"
Yn byw ym Methesda, ges i air efo Caryl Griffith. Mae'n fam sengl sy'n gweithio yn yr ysgol leol.
"Dw i'n rili stryglo i dalu biliau. 'Sna'm pres i gael pethe ychwanegol, pethe neis Dolig."
"Dach chi'n torri lawr ar bethau adra?"
"Yndw, yndw. 'Sdim llawer o wastraff acw rŵan.
" 'Dan ni'n bwyta o grystyn i grystyn. 'Dan ni'n stryglo, go iawn."
Neges debyg sydd gan bobl hŷn.
Mae disgwyl y bydd 375,000 yn colli'r taliad tanwydd gaeaf.
"Bydd o'n effeithio arnon ni. Fi a'r gŵr, oedden ni'n dau'n gael o. Rhaid ffeindio pres i dalu hwnnw rŵan."
"Sut dach chi'n teimlo am y misoedd sydd i ddod?"
"Fel hyn fydd hi. Dal i gwffio."
Yn 2021, cododd chwyddiant i dros 10%, er bod o wedi gostwng mae o heddiw eto wedi codi'n uwch na tharged Banc Lloegr sef 2%.
Mae prisiau'n dal i godi, wrth iddi oeri hefyd daw tlodi tanwydd yn fwy o her fyth.
Y broblem efo tai yma yng Nghymru yw bod nhw'n aneffeithiol.
O ran y raddfa EPC, hynny ydy faint o wres maen nhw'n gollwng mae 60% o dai yng Nghymru islaw y trothwy yn golygu bod cadw gwres yn heriol ac yn gwthio mwy i dlodi tanwydd.
"Paneli solar ydy'r man cychwyn."
Mynd i'r afael a hynny mae tîm Gwyrfai Gwyrdd yn Waunfawr.
Dyma gynllun cymunedol sydd am greu ynni lleol a'i gadw'n lleol gan ddechre efo'r ganolfan gymunedol.
"'Dan ni'n gweithio efo cymunedau i drio helpu nhw helpu pobl. Rhywle fel fan'ma yn Waunfawr, 'dan ni'n helpu nhw roi solar panels.
"Mae hwn yn enghraifft i be mae pobl arall yn gallu neud."
"Mae'n dod a'r gymuned at ei gilydd."
"'Dan ni isio rheoli be 'dan ni'n neud. Dyfodol ni yw e."
"I ni oedd o'n no brainer, efo to fel hyn."
Nôl ym Methesda mae gan fusnesau gynlluniau tebyg i gadw biliau yn isel tra bod prisiau yn codi.
"'Dan ni'n trio bod yn gynaliadwy a rili trio cadw costau trydan lawr. Ma gynnon ni solar panels mawr ar y to, mae'r adeilad yn rili insulated.
"'Dan ni'n rili trio cadw costau lawr."
Dweud mae Llywodraeth Cymru bod cynllun gwerth £30 miliwn ar y gweill i wella ansawdd tai a thaclo tlodi tanwydd ond gyda'r gaeaf wedi cyrraedd yn gynnar eleni.
Mae 'na rybudd bod yr oerfel megis dechrau i nifer.