Storm Bert: Rhybuddion melyn am wynt, glaw, rhew ac eira
Mae disgwyl tywydd garw ar draws Cymru ddydd Gwener, Sadwrn a Sul wrth i Storm Bert agosáu.
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm mewn lle dros y penwythnos.
Daw hynny wedi rhybudd am rew ac eira a ddaeth i rym am 12.00 ddydd Iau ac sy'n parhau tan 10.00 ddydd Gwener.
Mae'r rhybudd yn ei le ar gyfer siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Môn, Sir Benfro, Powys a Wrecsam.
Glaw trwm
Mae rhybuddion ar gyfer gwynt a glaw i Gymru dros y penwythnos wrth i Storm Bert daro'r DU.
Mae yna rybudd am wynt rhwng 5.00 a 19.00 ddydd Sadwrn yng Ngheredigion, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro.
Bydd rhybudd melyn am law hefyd mewn grym rhwng 06.00 ddydd Sadwrn a 06.00 dydd Sul ar gyfer y rhan fwyaf o’r wlad, ac eithrio Ynys Môn a Sir y Fflint.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1859992720397504758
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd bod disgwyl i rhwng 50-75 mm o law ddisgyn yn ystod y cyfnod yma, gyda chawodydd parhaus yn achosi i hyd at 150mm o law i ddisgyn mewn rhannau o dde Cymru, ble mae disgwyl i’r glaw fod drymaf.
Ychwanegodd y llefarydd: "Fe allai’r glaw achosi llifogydd mewn rhai mannau ac achosi amodau heriol i yrwyr ac oedi i drafnidiaeth gyhoeddus."
Yn ogystal â'r glaw mae rhybudd am wyntoedd cryfion mewn lle rhwng 05.00 a 19.00 ddydd Sadwrn mewn rhannau gorllewinol o Gymru.
Fe allai rhai llefydd profi hyrddiadau hyd at 60mya, gyda rhai ardaloedd arfordirol yn profi hyrddiadau o hyd at 70mya.
Mae’r rhybudd melyn am wyntoedd mewn grym ar gyfer Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Sir Benfro ac Ynys Môn.