Newyddion S4C

Ystyried ‘dosbarthu cylchgrawn â llaw’ wrth i gostau gynyddu

Meinir ac Efa

Mae cyhoeddwyr cylchgrawn i fenywod yn ystyried ei “ddosbarthu â llaw” yn hytrach na'i bostio i ddarllenwyr yn y dyfodol wrth i gostau gynyddu.

Mae pris postio pob copi o gylchgrawn Cara wedi codi o £1.55 i £2.10 meddai'r cyd-olygyddion Meinir Wyn Edwards ac Efa Mared Edwards.

Cafodd y cylchgrawn ei lansio yn Eisteddfod 2018 ac maen nhw’n cynhyrchu tri rhifyn y flwyddyn ym mis Mawrth, Gorffennaf a Thachwedd.

Ond mae costau cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi'r cylchgrawn dan wasgfa ariannol, medd y cyhoeddwyr.

“Dwi'n credu o ddifri' y bydd rhaid i ni ystyried dosbarthu copïau â llaw i'r llyfrwerthwyr a'r tanysgrifwyr sy'n lleol i ni, yn hytrach na'u postio,” meddai Meinir Wyn Edwards wrth Newyddion S4C.

Dywedodd bod costau postio yn tueddu i gynyddu adeg y Nadolig pan mae mwy o bostio anrhegion nag ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn.

“O ran cylchgrawn Cara yn benodol, mae cost papur ac inc ar gyfer argraffu wedi codi tipyn uwch na dwy neu dair blynedd yn ôl - ac mae hyn yn digwydd tair gwaith y flwyddyn i ni," meddai.

“Ac ar ben y costau argraffu, y golygu, y dylunio a thalu'r cyfranwyr, mae cost postio nawr hefyd wedi codi'n syfrdanol. 

“Mae cost postio un copi o Cara wedi codi'n ddiweddar o £1.55 i £2.10 am stamp ail ddosbarth a gyda channoedd o danysgrifwyr mae hynny'n tipyn o gost ychwanegol.

“Rhaid edrych ar bob opsiwn i arbed arian, ond fydd hynny byth ar draul cadw safonau'r cylchgrawn o ran diwyg, sgwennu ac amrywiaeth erthyglau."

Image
Stondin Cara
Stondin Cara yn Eisteddfod Tregaron

‘Anodd cynllunio’

Mae Cylchgrawn Cara yn derbyn grant gan Gyngor Llyfrau Cymru, sy'n dweud eu bod nhw wedi wynebu toriad termau real o 40% i'w cyllideb gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C eu bod nhw’n cydnabod pwysigrwydd economaidd a diwylliannol y sector ond bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd i ddiogelu gwasanaethau fel iechyd ac addysg.

Roedd yn golygu ei bod yn “gyfnod pryderus iawn” i'r byd cyhoeddi meddai Meinir Wyn Edwards.

“Rydyn ni'n lwcus iawn ar hyn o bryd i gael grant gan Gyngor Llyfrau Cymru ond dim ond cyfran o'r costau mae hynny'n ei ddiwallu,” meddai Meinir Wyn Edwards.

“Mae'r toriadau arfaethedig hyn yn mynd i effeithio nid yn unig ar y llyfrau a'r cylchgronau sy'n cael eu cyhoeddi, ond hefyd yn cael effaith ehangach ar awduron, dylunwyr, artistiaid, gweisg, siopau llyfrau a llyfrgelloedd. 

“Mae nifer ohonon ni yn y maes wedi sgwennu at ein haelodau seneddol yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd i bwysleisio'r effaith andwyol gaiff y toriadau hyn ar y byd llenyddol, ond a ydyn nhw'n mynd i wrando? Gawn ni weld. 

“Mae'n anodd iawn cynllunio ymlaen gyda'r ansicrwydd o ran cyllid y grant, yn ogystal â'r holl gostau cynyddol yma sydd uwch ein pennau. 

“Felly, ewch i chwilio am ffeiriau Nadolig lleol, cefnogwch siopau llyfrau lleol, a phrynwch fel slecs gan y busnesau bach sy'n gweithio'n ddiwyd yn eich cymunedau chi.”

'Trafod'

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei bod hi'n agored i drafodaeth gyda Phlaid Cymru am leddfu'r toriadau i'r byd cyhoeddi.

Roedd hi'n ymateb i'r aelod o Blaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, a ddywedodd fod yna "ostyngiad sylweddol yn nifer y llyfrau sy'n cael eu cyhoeddi yn y cyfnod hwn".

Roedd hynny'n cynnwys toriad o 34% yn nifer y llyfrau Cymraeg a gafodd eu cyhoeddi gan brif gyhoeddwyr gyda chefnogaeth grantiau, meddai Heledd Fychan.

"Mae nifer o bobl yn gweithio yn y diwydiant cyhoeddi wedi cysylltu efo fi, yn hynod o bryderus am y sefyllfa, gyda rhagor o doriadau staff yn anochel a hefyd nifer o gyhoeddwyr, megis Y Lolfa, ddim hyd yn oed yn gwybod os gallant barhau," meddai.

Wrth ymateb dywedodd Eluned Morgan bod rhaid torri'n ôl yn sgil "camreolaeth o'r economi" gan Lywodraeth flaenorol y DU.

"Mae yna reswm i chi, efallai, drafod gyda ni, os yw hwn yn rhywbeth sy'n bwysig i chi, efallai i'n helpu ni gyda'r cyllid," meddai'r Prif Weinidog.

"Mae hwnna'n wahoddiad i chi drafod gyda ni, os mai hwn yw'r gwir flaenoriaeth sydd gyda chi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.