Newyddion S4C

Teyrnged i dad fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng Crosshands a Chwmgwili

22/11/2024
Ian Michael Owen

Mae teulu tad fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A48 rhwng Crosshands a Chwmgwili'r wythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Ian Michael Owen yn y gwrthdrawiad ar ddydd Gwener, 15 Tachwedd.

Dywedodd ei deulu ei fod yn fab annwyl i Brenda a Phil, ac yn gadael ei fab Dafydd, ei lysfab Michael a’i bartner Lizzy ar ei ôl.

“Mae pawb yn gweld ei eisiau yn ofnadwy ers iddo gael ei gymryd oddi arnom ni mewn ffordd mor drasig,” meddai’r teulu.

“Roedd yn gweithio’n galed fel trydanwr am dros 30 o flynyddoedd ac roedd ei gyd-weithwyr yn ei barchu’n fawr.

“Roedd yn gweddu’n berffaith i gefn gwlad, yn ei elfen ar ben mynydd yn yr awyr agored.

“Roedd yn feiciwr modur brwd ac wrth ei fodd yn hyfforddi ei gŵn gwaith.

“Fe fydd yn cael ei gofio am fod yn ffrind da ac mae ei farwolaeth yn gadael twll i bawb oedd yn ei adnabod.”

Mae’r teulu wedi gofyn am breifatrwydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.