Buddsoddiad 'gwerth miliynau' gan British Airways ym maes awyr Caerdydd
Mae British Airways wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ar ei safle peirianneg cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd.
Mae tua 480 o bobl yn cael eu cyflogi gan y cwmni yng Nghaerdydd.
Dywedodd y cwmni y bydd yn ehangu un o'r tri bae cynnal a chadw ar y safle i hwyluso gweithgaredd ar gyfer awyrennau Airbus A350 ar gyfer teithiau hirach.
Bydd hyn yn creu ail fae sydd yn gwbl hyblyg, gan ganiatáu i waith mwy cymhleth gael ei gwblhau.
Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer awyrennau Boeing 777 a Boeing 787 y mae'r safle'n addas.
Fe fydd y datblygiad yn dechrau y flwyddyn nesaf, gyda disgwyl iddo fod yn barod erbyn 2026.
Dywedodd prif swyddog technegol BA Andy Best: "Mae ein safle peirianneg Cymreig yn rhan allweddol o'n gwaith cynnal a chadw, ac fe fydd y buddsoddiad yma, fel rhan o'n strategaeth cynnal a chadw ehangach, yn sicrhau fod British Airways Engineering Wales yn parhau i chwarae rhan annatod am flynyddoedd i ddod."
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Rebecca Evans: "Rydym yn croesawu'r newyddion yma yn fawr, gan sicrhau rhagor o dwf yn ein safle ni yng Nghaerdydd a'r gweithlu hynod o fedrus sydd yno."